Gweilch Dyfi: Glesni'n ymuno â Maldwyn

  • 10 Ebrill 2014
Glesni
Fe gyrhaeddodd Glesni am 6:40yb ddydd Iau

Mae'r disgwyl ar ben mewn gwarchodfa yng nghanolbarth Cymru wedi i un arall o Weilch Dyfi ddychwelyd fore Iau.

Cyrhaeddodd Glesni Gors Dyfi, ger Machynlleth, am 6:40yb, gan erlid iâr arall oedd yn ceisio nythu ar y safle.

Mae'r gwarchodwyr nawr yn gobeithio y bydd hi'n ymgartrefu yno.

Roedd ei phartner o'r llynedd, Maldwyn - a ddaeth i enwogrwydd ar raglen Springwatch y BBC yn 2012 - wedi cyrraedd y gors ddydd Mawrth.

Cafodd Maldwyn a Glesni gywion gyda'i gilydd y llynedd.

Roedd hi'n ddiwedd Ebrill ar Glesni'n cyrraedd yn 2013, felly roedd 'na gyffro mawr ei bod wedi dychwelyd yn gynharach y tro hwn.

'Yn gynt'

"Mae hi bron i dair wythnos yn gynt yn cyrraedd na'r llynedd," meddai Alwyn Ifans, o Brosiect Gweilch y Môr Dyfi, wrth Newyddion Ar-lein.

"Mae gweilch fel arfer yn dod yn ôl, ond achos mai llynedd oedd blwyddyn gynta' Glesni, roedd hi'n anodd gwybod be' fydda' hi'n ei wneud.

"Fel arfer, maen nhw'n dychwelyd yr un amser bob blwyddyn - felly mae 'na obaith y cawn ni dymor mwy sefydlog o hyn ymlaen.

"Fe wnaeth hi hel deryn arall oddi yno pan gyrhaeddodd hi, roedd 'na dipyn o erlid uwchben y nyth, ond mae Glesni i weld yn ennill."

Roedd Maldwyn wedi cyrraedd y safle am 3:13yh ddydd Mawrth.

Maldwyn y Gwalch
Daeth Maldwyn i sylw'r cyhoedd ar raglen Sprinwatch y BBC

Roedd 31,000 o bobl wedi ymweld â Chors y Dyfi'r llynedd ac mae 'na obaith o ddenu mwy eleni gyda thŵr gwylio newydd yn agor yno ddydd Llun nesa', fel yr esbonia Mr Ifans:

"Mae'r tŵr gwylio newydd yn agosach at y nyth, mae o ryw 250 llath i ffwrdd. Roedd o i fod yn barod cyn y gaea' ond roedd y stormydd wedi creu tipyn o hafoc.

"Gawson ni arian loteri, rhyw £1.2m i adeiladu a staffio'r tŵr.

"O'r blaen, dim ond agor dros dymor y gweilch oedda' ni - tua diwedd Mawrth i ganol Medi. Ond efo'r tŵr, mi fyddwn ni'n agor drwy'r flwyddyn - ar benwythnosau yn ystod y gaea', er enghraifft, mi fyddwn ni'n cynnal nosweithiau gwylio'r sêr ac ati."

Mae modd hefyd i'r cyhoedd wylio'r nyth trwy lif byw ar wefan y prosiect.

Ychwanegodd Mr Ifans: "Mae 'na bobl o America ac Awstralia wedi bod yn gwylio'r lluniau! Mae 'na ddiddordeb byd-eang

"Mi gollon ni gyw'r flwyddyn gynt - Ceulan - mi ddaeth hynny â ni i sylw'r byd, yn ogystal â hanes Maldwyn a Glesni."