Beirniadu rheolaeth y blaid Lafur o'r gwasanaeth iechyd

David Cameron
Mae David Cameron wedi bod yn feirniadol iawn o reolaeth Llywodraeth Cymru o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)

Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi beirniadu gwasanaeth iechyd Cymru, gan ddweud, "pan fo clawdd Offa yn dod yn ffin rhwng bywyd a marwolaeth, rydym yn tystio i sgandal genedlaethol".

Yn siarad yng nghynhadledd wanwyn y Ceidwadwyr Cymreig, dywedodd bod rhestrau aros yn hirach yng Nghymru a bod targedau ddim yn cael eu cyrraedd.

Roedd hefyd yn hallt ei feirniadaeth o reolaeth "anfaddeuol o hunanfodlon" y blaid Lafur ar addysg, gyda Chymru, meddai, yn disgyn y tu ôl, "nid dim ond gweddill y DU, ond gweddill gorllewin Ewrop" mewn darllen, mathemateg, a gwyddoniaeth.

Trodd ei sylw hefyd at yr economi, gan ddadlau mai ei blaid ef yw'r un sydd yn sefyll dros drethi isel a'u bod yn "uchelgeisiol ar ran Cymru".

Dadleuodd bod cynlluniau'r llywodraeth i greu swyddi newydd yn y sector preifat yn dwyn ffrwyth.

Dywedodd: "Yn y flwyddyn ddiwethaf, bu cynnydd cyflymach mewn cyflogaeth yma yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o'r DU ... yn gyflymach na Llundain, yn gyflymach na'r de-ddwyrain.

"Cymru yw prif ganolfan Prydain ar gyfer creu swyddi".

Dadleuodd bod gan ei lywodraeth ef gynllun clir, hirdymor, uchelgeisiol i wella economi y DU, trwy leihau'r diffyg, torri treth incwm, creu mwy o swyddi drwy gefnogi busnesau bach a menter, rhoi cap ar wariant yn y wladwriaeth les, lleihau mewnfudo, a sicrhau'r "ysgolion a sgiliau gorau ar gyfer ein pobl ifanc"

'Chwerthinllyd a gwarthus'

Roedd ymateb llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith AS, i sylwadau Mr Cameron yn hallt.

Dywedodd: "Mae'n chwerthinllyd ac yn warthus o'r Prif Weinidog i ddisgrifio Clawdd Offa fel 'y ffin rhwng byw a marw' - sylwadau sydd y tu hwnt i barodi ac islaw dirmyg - yn enwedig ar y diwrnod y gwnaeth astudiaeth Ymddiriedolaeth Nuffield gadarnhau mai ychydig o wahaniaeth mewn canlyniadau iechyd sydd rwng y GIG yng Nghymru a Lloegr.

"Mae'r codi bwganod diweddar gan y Torïaid am lefel y gofal mae cleifion y GIG yng Nghymru yn ei gael yn hollol warthus, ond mae David Cameron wedi plymio dyfnderoedd newydd gyda'i sylwadau.

"Dylai ymddiheuro i'r miloedd o weithwyr iechyd yng Nghymru y mae'n eu pardduo gyda'i sylwadau llib a di-sail, ac yn fwy felly y miliynau o bobl sy'n defnyddio'r GIG yng Nghymru.

"Y sgandal genedlaethol yn y fan hyn yw nid GIG Cymru ond David Cameron ei hun, sy'n iselhau ei swydd gyda'r sylwadau yma ac sy'n amlwg wedi rhoi'r gorau i unrhyw uchelgais i fod yn brif weinidog ar Brydain gyfan."

Cymharu â Stafford

Jeremy Hunt
Mae Mr Hunt wedi dweud ei fod yn "drasiedi" nad yw'r GIG yng Nghymru yn mabwysiadu diwygiadau a gyflwynwyd yn Lloegr ar ôl sgandal Ysbyty Stafford

Yn gynharach fe rybuddiodd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU, Jeremy Hunt bod Cymru yn "cerdded yn ddiarwybod" i mewn i sefyllfa debyg i sgandal Ysbyty Stafford.

Canfu ymchwiliad Ysbyty Stafford y llynedd y bu blynyddoedd o gam-drin ac esgeulustod.

Dywedodd Mr Hunt fod cleifion y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, "a phob meddyg, nyrs, a gweithiwr gofal iechyd yn cael eu gadael i lawr gan gamreolaeth Llafur".

Dyma oedd ei ymosodiad mwyaf chwyrn hyd yma ar gyflwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru o dan ofal y blaid Lafur.

Honnodd bod adroddiad Ymddiriedolaeth Nuffield a'r Sefydliad Iechyd, a gyhoeddwyd fore Gwener, yn "dangos y gwir ofnadwy: eich bod dwywaith yn fwy tebygol o farw o haint mewn ysbyty yng Nghymru nag yn Lloegr".

Ym mis Mawrth, cafodd fersiwn newydd o gyfraddau marwolaeth ysbyty yng Nghymru ei gyhoeddi sy'n cymryd i ystyriaeth wahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr.

Creu comisiynwyr newydd

Mae ffigurau o chwe ysbyty gyda chyfraddau marwolaeth uwch na'r cyfartaledd yn cael eu hadolygu gan arbenigwr annibynnol , er mwyn sefydlu a oes angen ymchwilio ymhellach.

Yn ogystal ar fore cyntaf y gynhadledd, cyhoeddodd llefarydd y blaid ar iechyd yng Nghymru, Darren Millar AC, mai un o'u cynigion adeg etholiadau'r Cynulliad yn 2016 fydd creu comisiynwyr iechyd wedi eu hethol yn uniongyrchol.

"Byddwch yn medru pleidleisio drostyn nhw, a phleidleisio i'w cael nhw allan - dyna weledigaeth y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer llais i gleifion yn y gwasanaeth iechyd", meddai.

Fe fydd y blaid hefyd, meddai, yn datblygu cynigion ar gyfer siarter yn dangos yn glir pa ddewisiadau sy'n rhaid eu rhoi i gleifion yn y GIG, gan ddadlau y byddai hyn yn "rhoi grym i gleifion i wneud yr hyn sydd orau iddyn nhw a'u teuluoedd".

Yn olaf, er mwyn cryfhau'r gwasanaeth ambiwlans, mae'n addo y byddai gweinidog iechyd Ceidwadol yn gwarantu 100 o weithwyr ychwanegol - 50 o barafeddygon newydd a staff i'w cynorthwyo.

Rhoddodd deyrnged hefyd i'r AS Llafur Ann Clwyd, gan ei disgrifio fel "gwir gefnogwr" i'r gwasanaeth iechyd, a dywedodd bod "beirniadaeth" Carwyn Jones ohoni yn "warthus".

Ewrop

Dywedodd Kay Swinburne, sydd ar frig rhestr y Ceidwadwyr ar gyfer etholiadau Senedd Ewropeaidd ym mis Mai, fod angen i Ewrop "weithio'n well i Gymru", gan fynnu nad yw'r drefn bresennol yn gynaliadwy.

Yn ôl Ms Swinbourne, sydd wedi bod yn ASE ers 2009, bydd y Ceidwadwyr yn "gwrthod barn y rhai a fyddai'n ildio mwy o bŵer i Frwsel neu sy'n credu y gellid gwarchod buddiannau Prydain trwy sefyll ar yr ymylon heb unrhyw ddylanwad ar gyfeiriad Ewrop".

Ychwanegodd: "Mae llawer o feysydd lle mae ein cysylltiadau ag Ewrop yn uniongyrchol berthnasol i fywyd yma yng Nghymru.

"Ond rydym yn gwybod bod pobl yn teimlo bod yr Undeb Ewropeaidd yn mynd i gyfeiriad nad ydynt byth wedi cytuno iddo".