Merch o'r Rhyl ar goll: heddlu yn apelio

Courtney Louise Jones
Image caption Mae'r heddlu yn gofyn i Courtney Louise Jones gysylltu gyda nhw

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth er mwyn darganfod merch 15 oed o'r Rhyl sydd ar goll.

Cafodd Courtney Louise Jones ei gweld diwethaf gan ei theulu nos Sadwrn Mawrth 29 ym Manceinion.

Mae un aelod o'r teulu wedi derbyn negeseuon gan y ferch ifanc ddydd Mercher ond mae'r heddlu yn awyddus i wybod ei bod hi'n saff.

Maen nhw'n gofyn i Courtney Louise Jones i gysylltu gyda'r heddlu ei hun.

Mae'n cael ei disgrifio fel merch gyda gwallt brown at ei hysgwyddau, llygaid glas, rhwng 5'3 a 5'4 modfedd o daldra ac mae ganddi acen Manceinion.

Mae ganddi gysylltiadau yn ardal Manceinion ond mi allai hefyd fod yn ardal Blackpool.

Gofynnir i rywun sydd wedi gweld y ferch ifanc i gysylltu gyda Heddlu'r Gogledd trwy ffonio 101.