Amseroedd aros: 'Canu clychau larwm'

Adroddiad Nuffield
Mae'r ymchwil yn cymharu perfformiad Gwasanaethau Iechyd yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon

Gallai penderfyniad Llywodraeth Cymru i gwtogi cyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol dros y blynyddoedd diwethaf fod yn gyfrifol am ymestyn amseroedd aros, yn ôl adroddiad dylanwadol.

Dywed astudiaeth Ymddiriedolaeth Nuffield a'r Sefydliad Iechyd fod y gwahaniaeth amseroedd aros yn "drawiadol" ac "anghymesur".

Ond mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod perfformiad wedi gwella mewn meysydd eraill ac nad oes tystiolaeth i awgrymu bod y GIG yng Nghymru yn gyffredinol yn waeth nag unrhyw ran arall o'r DU.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod yr adroddiad yn dangos fod "gwelliannau clir wedi bod yn y pedair gwlad ers datganoli".

'Dim tystiolaeth'

Mae'r ymchwil ar gyfer yr adroddiad - 'The Four Health Systems of the UK - How Do They Compare?' - yn cymharu perfformiad y GIG yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon dros gyfnod o 20 mlynedd.

Mae'n nodi cynnydd sylweddol mewn amseroedd aros yng Nghymru ar gyfer triniaethau fel llawdriniaeth y galon neu osod cymalau newydd.

Yn ôl y rhai sy'n gyfrifol am yr ymchwil, fe ddylai'r amseroedd aros "ganu clychau larwm ymysg llunwyr polisi".

Ond mae'r ymchwil hefyd yn awgrymu bod Cymru wedi gwella mewn nifer o feysydd eraill - y raddfa marwolaethau y gellid ei hosgoi er enghraifft.

Fe ddywed yr adroddiad: "Mae'r bwlch mewn perfformiad rhwng Lloegr a gweddill y DU wedi cau dros y blynyddoedd diweddar.

"Ychydig o arwyddion sydd fod un wlad yn symud o flaen y lleill yn gyson o gofio yr arwyddion perfformiad sydd ar gael.

"Ar y cyfan, mae'r ymchwil yn awgrymu - er gwaethaf gwahaniaethau gwleidyddiol dadleuol rhwng systemau iechyd y DU ers datganoli ar dargedau, strwythur, dewis y claf a'r defnydd o ddarparwyr o'r tu allan i'r GIG - nad oes tystiolaeth i gysylltu'r gwahaniaethau polisi gyda gwahaniaeth mewn perfformiad."

Amseroedd aros

Hyd at 2009-10 roedd amseroedd aros ar gyfer nifer o driniaethau cyffredin yng Nghymru wedi gwella'n sylweddol.

Ond mae'r ymchwil yn dweud bod cleifion yng Nghymru yn 2013 wedi aros 170 diwrnod ar gyfartaledd am glun newydd o'i gymharu â 77 diwrnod yn Lloegr a 67 diwrnod yn yr Alban.

Dywed yr astudiaeth nad yw'r rheswm am y dirywiad yn glir ond y gallai penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio gwarchod cyllideb y GIG yn dilyn etholiadau diwethaf y Cynulliad fod yn ffactor gyfrannodd at hynny.

Rhwng 2010-11 a 2012-13 fe wnaeth gwariant ar iechyd gynyddu o 1% y flwyddyn yn Lloegr a'r Alban a 2% yng Ngogledd Iwerddon.

Dros yr un cyfnod yng Nghymru fe welodd y GIG gwtogiad o 1% y flwyddyn yn ei chyllideb.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud o'r blaen eu bod wedi gwarchod gwariant ar ofal cymdeithasol i raddau llawer mwy na gweddill y DU, ac mae awduron yr adroddiad yn cydnabod na fyddai manteision y penderfyniad yna yn cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad.

Meysydd eraill

Ar wahân i amseroedd aros, mae'r adroddiad yn awgrymu bod nifer o heriau eraill yn wynebu'r GIG yng Nghymru.

Canser ysgyfaint
Nid yw'r astudiaeth yn ystyried amseroedd aros am driniaeth ganser - rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru'n dweud sy'n well yng Nghymru

Yn y cyfnod dan sylw roedd amseroedd ymateb ambiwlansys i alwadau brys yn waeth yng Nghymru nag unrhyw wlad arall o fewn y DU, ac mae gan Gymru lai o feddygon teulu i bob dinesydd nag unman arall.

Ond mae agweddu eraill sy'n fwy calonogol:-

  • Mae'r raddfa marwolaeth oherwydd clefydau y mae modd eu trin yn is yng Nghymru na phobman heblaw Lloegr;
  • Mae disgwyliad oes yng Nghymru yn uwch nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, er yn is na Lloegr ar y cyfan;
  • Yn ôl arolygon barn, mae cleifion Cymru yn fwy bodlon gyda'r GIG yn gyffredinol a'r modd y mae meddygfeydd yn cael eu rhedeg na chleifion yn Lloegr a'r Alban.

Nid yw'r adroddiad yn ystyried amseroedd aros adrannau brys ysbytai nag amseroedd aros am ddiagnosis - dau beth y mae'r gwrthbleidiau yn cyfeirio atyn nhw wrth feirniadu Llywodraeth Cymru ym maes iechyd.

Ond nid yw'r adroddiad chwaith yn cynnwys mesurau fel amseroedd aros canser a graddfeydd goroesi canser, sy'n ddau beth y mae Llywodraeth Cymru'n dweud sy'n well nag yn Lloegr.

'Gwneud yn dda'

Dywed y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: "Mewn rhai meysydd pwysig sy'n cael eu trafod yn yr adroddiad, mae Cymru'n gwneud yn dda.

"Mewn cysylltiad â'r 'ffordd mae'r GIG yn gweithio' a'r 'ffordd mae meddygon lleol a theulu'r GIG yn gweithredu'r dyddiau yma' fe ddaeth Cymru yr uchaf o fewn y DU, gyda 62% yng Nghymru'n fodlon iawn gyda'r Gwasanaeth Iechyd.

"Mae hyn yn cymharu â dim ond 53% oedd yn dweud yr un peth am y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr."

Dywed Andy McKeon o Ymddiriedolaeth Nuffield:

Ambiwlans
Amseroedd aros am ambiwlans yng Nghymru yw'r gwaethaf yn y DU

"Mae cyfnod yr astudiaeth yn cyd-fynd â'r cynnydd mwyaf yng nghyllideb y pedair system iechyd felly nid yw'n syndod gweld mwy o staff a gwelliant mewn perfformiad.

"Ond yr hyn sy'n ddiddorol yw - er gwaetha'r dadlau mawr am wahaniaethau polisi mewn strwythur, targedau a dewis y claf - does yr un wlad yn gyson ar y blaen o ran perfformiad eu system iechyd."

Arweinydd yr ymchwil i'r adroddiad yw'r Athro Nicholas Mays sy'n dweud: "Wrth ddadansoddi'r Gwasanaethau Iechyd rydym wedi gorfod dibynnu ar ddata sydd ddim yn gynhwysfawr.

"Mae hynny'n ei gwneud yn anodd i wneud cymariaethau rhesymol, ac mae risg i hynny adael llunwyr polisi yn y tywyllwch wrth geisio cynllunio newidiadau sy'n arwain at ofal iechyd a safon uwch.

"Ni ddylai ffigyrau gwell, y mae modd eu cymharu, rwystro gwledydd rhag dilyn eu trywydd eu hunain o safbwynt polisi.

"Fe fyddai data dibynadwy alluogi pob un i weld sut mae eu polisïau yn gweithio ac yn fodd i'w galw i gyfrif am berfformiad eu Gwasanaeth Iechyd."