Diwrnod olaf Ysgol John Beddoes

John Beddoes School Image copyright Powys council
Image caption Bydd campws Ysgol John Beddoes yn ailagor fel rhan o Ysgol Uwchradd y Drenewydd

Bydd ysgol uwchradd ym Mhowys yn cau yn hwyrach, er gwaetha' gwrthwynebiad gan grŵp o bobl leol.

Mae Ysgol John Beddoes yn Llanandras, gafodd ei sefydlu yn 1565, wedi bod mewn mesurau arbennig ers Rhagfyr 2012.

Penderfynodd Cyngor Powys gau'r ysgol oherwydd canlyniadau gwael mewn arholiadau a chwymp yn nifer y disgyblion.

Bydd yr ysgol nawr yn dod yn gampws i Ysgol Uwchradd y Drenewydd, sydd 30 milltir i ffwrdd.

Cafodd deiseb ei gyflwyno i'r cyngor ym mis Mai y llynedd, gan grŵp o'r enw Ffrindiau Ysgol John Beddoes.

Ond penderfynodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis ym mis Rhagfyr fod angen cau'r ysgol ar ôl tymor gwanwyn 2014.

Straeon perthnasol