Manylion tîm pêl droed Caerdydd: gofyn am ymholiad

Cardiff City playing Crystal Palace Image copyright Getty Images
Image caption Colli wnaeth Caerdydd yn erbyn Crystal Palace

Mae tîm pêl-droed Caerdydd wedi gofyn i'r uwchgynghrair wneud ymholiadau i'r honiadau bod Crystal Palace wedi cael gwybod pwy oedd yn nhîm yr adar gleision cyn y gêm ddiweddar yn ei herbyn.

Mae Caerdydd yn cyhuddo Crystal Palace o ddefnyddio dulliau anfoesol.

Mi enillodd Palace o 3-0 a'r canlyniad yn golygu bod tîm Ole Gunnar Solskjaer yn 19eg yn y gynghrair.

Yn ôl Caerdydd, mi oedd Palace yn gwybod pwy oedd yn nhîm Caerdydd 24 awr cyn y gêm.

Dydy timau pêl droed ddim fel arfer yn cael gwybod tan yn fuan cyn gêm pwy yw'r chwaraewyr yn eu herbyn.

Gwrthod ymateb

Er bod Caerdydd wedi cysylltu efo'r uwchgynghrair dydyn nhw ddim wedi gwneud cwyn swyddogol.

Felly does dim ymchwiliad ffurfiol.

Mae'r uwchgynghrair yn ceisio cael mwy o wybodaeth ac eglurder gan y clwb.

Mae cadeirydd Crystal Palace Steve Parish wedi gwrthod ymateb i'r honiadau.