Darpariaeth anabl: Clybiau Cymru'n dda

Stadiwm Liberty
Image caption Stadiwm Liberty yn Abertawe sydd â'r ddarpariaeth orau yn yr Uwchgynghrair

Mae clybiau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd wedi dod i'r brig mewn arolwg o glybiau sydd yn darparu llefydd ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yn yr Uwch Gynghrair Bêl-droed.

Stadiwm y Liberty yn Abertawe ddaeth yn gyntaf ar y rhestr, gyda Stadiwm Dinas Caerdydd yn y trydydd safle. Stadiwm Southampton oedd yn ail.

Daw canlyniadau'r arolwg wrth i weinidog Llywodraeth San Steffan ar gyfer pobl anabl alw ar glybiau i fynd i'r afael â'r sefyllfa ''ofidus'' sydd yn bodoli gyda diffyg cefnogaeth bwrpasol i gefnogwyr anabl mewn nifer o stadiymau ar hyd Prydain.

Mae'r gweinidog Mike Penning wedi ysgrifennu at bob clwb pêl-droed proffesiynol i'w hatgoffa o'u dyletswyddau cyfreithiol i ddarparu lle pwrpasol ar gyfer cefnogwyr anabl.

Gwaith ymchwil

Mae gwaith ymchwil diweddar wedi dangos fod bron i 50% o glybiau'r Uwch Gynghrair - yn cynnwys Manchester Utd, Lerpwl a Chelsea - yn methu darparu hanner y gofodau ar gyfer cadeiriau olwyn ag sydd i fod ar gael.

Fe gredir fod y sefyllfa yn waeth yn y cynghreiriau is yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, ac mae Mr Penning wedi gofyn am drafodaethau brys gyda chadeirydd F.A. Lloegr, Greg Dyke, er mwyn dod a'r arfer o fethu â darparu digon o lefydd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn i ben.

Dywedodd Mike Penning: ''Rydw i'n chwythu'r chwiban ar annhegwch yn erbyn pobl anabl gan benaethiaid clybiau pêl-droed. Mae pêl-droed yn rhan o dreftadaeth Prydain - mae yn ein gwaed - ac felly mae'r ffaith fod clybiau drwy Brydain yn codi rhwystrau sydd yn rhwystro un o bob pump o'r boblogaeth rhag mwynhau'r gêm yn warth llwyr.

''Gwarthus o annigonol''

''Rhaid i ni gael trawsnewidiad llwyr i'r caeau a sut y mae cefnogwyr anabl yn derbyn cefnogaeth ymhob lefel - ac fe ddylai hyn ddechrau ar y top. Mae'r sefyllfa ar hyn o bryd yn warthus o annigonol, ac nid gyda darpariaeth i gadeiriau olwyn yn unig ond mynediad i bobl gyda phob math o anableddau.

''Rhaid i newidiadau gael eu gwneud nawr er mwyn dangos y cerdyn coch i driniaeth annheg ac anghyfreithlon o bobl gydag anableddau - er mwyn sicrhau fod pob un yn gallu mwynhau'r gêm brydferth,'' meddai.

Mae canllawiau ynglŷn â sut y dylai clybiau pêl-droed yn y DU wasanaethu cefnogwyr gydag anableddau mewn lle ers 2004. Mae'r nifer o ofodau i gadeiriau olwyn mewn stadiymau yn dibynnu ar gyfanswm maint y dorf sydd yn gallu mynychu gemau yn y stadiymau.

Deddf

Ers Deddf Cydraddoldeb 2010 a deddfwriaeth yn dyddio'n ôl i 1995, mae wedi bod yn anghyfreithlon i ddarparwyr gwasanaethau, yn cynnwys clybiau pêl-droed, i drin pobl ag anableddau yn llai ffafriol na phobl eraill.

Does gan glybiau gyda stadiymau hŷn ddim hawl i beidio â chydymffurfio â'r rheolau ar y sail fod eu caeau wedi eu hadeiladu cyn i'r ddeddfwriaeth ddod i rym.

Dywedodd Terry Nelson, cyn-chwaraewr pêl-droed i glwb Lerpwl, sydd wedi colli ei goes yn dilyn salwch: ''Cafodd cefnogwyr ag anableddau flas go iawn o'r hyn sydd yn bosib yn ystod Gemau Paralympaidd Llundain, a phan maen nhw'n mynd i gemau pêl-droed maen nhw'n gallu gweld eu bod yn cael bargen wael. Mae'n rhaid i rywbeth gael ei wneud i wella mynediad i bobl - beth bynnag yw eu hanabledd.''

Elusen

Yr elusen Level Playing Field oedd yn gyfrifol am gynnal yr arolwg o glybiau sydd yn darparu llefydd ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn yn yr Uwch Gynghrair Bêl-droed.

Yn ôl Joyce Cook, Cadeirydd yr elusen: ''Mae profiad cefnogwyr pêl-droed ag anableddau yn wahanol ar hyd y wlad. Fe all fod yn anodd i gael gafael ar docynnau, yn enwedig i gemau oddi-cartref ac yn enwedig os ydych yn defnyddio cadair olwyn.

''Ac ar ôl i chi gyrraedd y cae mae'r olygfa mor wael o gadair olwyn bron na fydda wedi bod yn well edrych ar y gêm ar y teledu. Tydi hyn ddim yn dderbyniol ac mae'n amser i glybiau pêl-droed gymryd eu hoblygiadau cyfreithiol o ddifrif,'' meddai.