Ceidwadwyr: Agored i glymblaid?

Andrew RT Davies
Image caption Roedd araith Andrew RT Davies yn un bersonol

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies wedi dweud bod angen "clymblaid o syniadau er mwyn datrys problemau Cymru".

Bydd ei eiriau ar ail ddiwrnod cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn Llangollen yn cael eu gweld fel awgrym y byddai'r blaid yn agored i ffurfio clymblaid gyda phleidiau eraill ar ôl etholiadau'r Cynulliad yn 2016.

Dywedodd Mr Davies fod y llywodraeth Lafur yng Nghymru yn "ddiog a blinedig", a dywedodd bod gwir angen am newid.

Mewn araith bersonol, dywedodd Mr Davies nad "gwleidydd o'r crud " mohono, ac mewn cyfeiriad i'w honiad y llynedd ei fod yn "bedair stôn ar bymtheg o gig eidion gorau Cymru", dywedodd yn gellweirus ei fod nawr yn pwyso 19 stôn 10 pwys.

Canmolodd ei dim "ymroddedig" ym Mae Caerdydd. Ym mis Chwefror, diswyddodd Mr Davies bedwar aelod o gabinet yr wrthblaid am wrthryfela yn ei erbyn mewn pleidlais ar ddatganoli treth incwm, a chyfaddefodd bryd hynny y bu rhaniadau mewnol yn ei blaid am flynyddoedd

Rhoddodd deyrnged hefyd i Syr Wyn Roberts, a fu farw ym mis Rhagfyr. Yn ôl Mr Davies, "bu Wyn yn gwasanaethu ein plaid gydag ymroddiad yn San Steffan, ac roedd yn eiriolwr cynnar dros yr iaith Gymraeg. Mae colled fawr ar ei ôl".

'Gadael i lawr'

Yn gynharach, dywedodd Ysgrifennydd Cymru David Jones bod ymateb y prif weinidog Carwyn Jones i ganlyniadau profion PISA wedi bod yn "warthus".

Image caption Dywedodd David Jones bod y blaid Lafur yn "gadael cenhedlaeth gyfan o bobl ifanc i lawr" yng Nghymru

Wrth annerch ei blaid ar ddiwrnod olaf y gynhadledd ddeuddydd yn Llangollen, honnodd AS Gorllewin Clwyd bod Llafur "yn gadael cenhedlaeth gyfan o bobl ifanc i lawr".

Ym mis Rhagfyr, Cymru oedd â'r canlyniadau gwaethaf ymhlith gwledydd Prydain yn ôl profion gan sefydliad PISA, ac yn gynharach yr wythnos hon cyhoeddwyd arolwg cynhwysfawr yr OECD o addysg yng Nghymru a ddywedodd fod gan lywodraeth Cymru ddiffyg gweledigaeth hir dymor, a bod angen gwneud mwy i gefnogi athrawon.

''Hollol annigonol''

Yn ôl yr ysgrifennydd gwladol, mae ymateb Llywodraeth Cymru i ganlyniadau PISA wedi bod yn "hollol annigonol".

Dywedodd Mr Jones wrth y cynadleddwyr yn Llangollen:

"Un peth y gallai Llafur ei wneud, ar iechyd ac addysg, yw i edrych ar yr hyn rydym yn ei wneud yn San Steffan.

"Mae mor glir ag y gallai fod bod y canlyniadau ym maes addysg ac iechyd yn well yn Lloegr nag yng Nghymru.

"Ond y broblem, wrth gwrs, yw bod y Blaid Lafur yn gyson yn ceisio gwneud pethau'n wahanol yng Nghymru.

"Eu mantra yw: 'atebion Cymreig i broblemau Cymreig', hyd yn oed pan fo'r problemau hynny'n union yr un fath i'r rhai a geir mewn mannau eraill".

'Trawsnewid bywyd'

Fore Sadwrn hefyd fe wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, annerch y gynhadledd gan siarad am ei argyhoeddiad bod y "diwygiadau economaidd a chymdeithasol" yn gwbl angenrheidiol.

Ac roedd ganddo lawer o ystadegau wrth law er mwyn ceisio dangos bod eu polisïau yn dwyn ffrwyth.

O ganlyniad i'r Rhaglen Waith, meddai, mae 252,000 wedi cael gwaith parhaol yn y DU, gan gynnwys 12,000 yng Nghymru.

Dywedodd: "Meddyliwch am y trawsnewid ym mywyd unigolion a fu'n ddibynnol ar y wladwriaeth, ond sydd erbyn hyn yn meddu ar obaith o fedru siapio eu bywydau eu hunain a'u teuluoedd.

"Yn hytrach na bod yn gaeth mewn cylch dieflig - boed yn troseddu, caethiwed, dyled - yn awr rydym yn gweld unigolion ar daith o ddibyniaeth i annibyniaeth."

Wfftio beirniadaeth

Ar ddiwedd y gynhadledd, clywodd yr aelodau gan gadeirydd y blaid, Grant Shapps AS.

Wfftiodd y feirniadaeth a wnaeth Carwyn Jones yng nghynhadledd Llafur Cymru fis diwethaf fod y Ceidwadwyr yn cynnal "rhyfel ar Gymru."

Dywedodd Mr Shapps, "gyda phob parch, Carwyn, mae hynny yn sbwriel ac rydych yn gwybod hynny.

"Dim ond un blaid sy'n ymosod ar bobl Cymru - Plaid Lafur Carwyn Jones a Phlaid Lafur Ed Miliband.

"Plaid treth-a-gwariant, rhagrithiol, y wladwriaeth faldodus, biwrocrataidd, anatebol, sy'n torri'r GIG, wnaiff ddim hyd yn oed ymddiheuro am y difrod y maent yn ei wneud i Gymru."

Straeon perthnasol