Pêl-droed Uwch Gynghrair Cymru : Aberystwyth 2 - 3 Bala

Llwyddodd clwb pêl-droed y Bala i guro Aberystwyth o 3 - 2 yn eu gêm oddi cartref yn Uwch Gynghrair Cymru nos Wener.

Fe gipiodd y Bala fuddugoliaeth gyda gôl hwyr gan Dave Morley wedi i gic o'r smotyn unioni'r sgor i Aberystwyth yn gynharach yn y gêm.