Enwi'r disgybl fu farw'n Abertawe

Ysgol Olchfa
Image caption Roedd James Lock yn ddisgybl yn Ysgol yr Olchfa

Mae'r bachgen 15 oed gafodd ei ddarganfod yn farw ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan wedi cael ei enwi'n lleol fel James Lock.

Daeth yr heddlu o hyd i'w gorff wedi iddyn nhw gael eu galw i Ffordd Gŵyr am 9:30yb, ddydd Iau.

Roedd James Lock, oedd o ardal Dyfnant, yn ddisgybl yn Ysgol yr Olchfa.

Yn ôl yr heddlu dyw'r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.

Mae prifathro Ysgol yr Olchfa, Hugh Davies, wedi talu teyrnged i'r bachgen gan ddweud,"ei bod hi'n amhosib disgrifio'r galar yr ydyn ni'n teimlo dros ei deulu ac mae ein meddyliau gyda nhw ar hyn o bryd."

Cafodd yr ysgol ei chau'n gynnar brynhawn Gwener fel arwydd o barch.

Straeon perthnasol