Arestio dyn wedi ffrwydrad

Jordan Smith Image copyright Wales News Service
Image caption Dywedodd cymdogion bod Jordan Smith wedi gobeithio ymuno â'r fyddin

Mae dyn 19 oed gafodd ei anafu mewn ffrwydrad mewn cae ger ei gartref yn Sir Benfro wedi cael ei arestio.

Dioddefodd y dyn, sydd wedi ei enwi'n lleol fel Jordan Smith, anafiadau difrifol i'w ddwylo yn y ffrwydrad ym mhentref Cas-wis.

Dywedodd heddlu nos Wener bod dyn 19 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o droedd yn ymwneud â ffrwydron.

Mae plismyn hefyd wedi cipio "offer codi ofn ar adar".

Cafodd Mr Smith ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Treforys lle mae'n derbyn triniaeth am ei anafiadau, ac mae pryder y gallai golli ei ddwy law.

Dywedir ei fod mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod yn parhau i ymchwilio ond nad oedden nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â'r digwyddiad.

Yn ôl cymdogion roedd Mr Smith wedi gobeithio ymuno gyda'r fyddin. Roedd wedi ymuno y llynedd ond heb gwblhau ei hyfforddiant.

Digwyddodd y ffrwydrad am 11:0yb ddydd Iau, gan arwain at gau'r ffordd drwy'r pentref.