Dwyn angor trwm o glwb hwylio yn Y Bermo

Angor. Image copyright Gwynedd Council
Image caption Angor tebyg i hwn gafodd ei ddwyn yn Y Bermo

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio ar ôl i angor mawr gael ei ddwyn o glwb hwylio yn Y Bermo.

Cafodd yr angor ei chymryd o Glwb Hwylio Meirionnydd ac mae'n perthyn i gwch camlas sy'n eiddo i adran arforol Cyngor Gwynedd. Mae'r angor yn pwyso 400 cilogram.

Mae'r heddlu yn credu bod y troseddwyr wedi defnyddio offer arbennig i godi pwysau trwm er mwyn medru symud yr angor.

Mi fyddai cerbyd fel hyn wedi ei barcio yn agos i'r safle, meddai'r heddlu, ac mi fyddai wedi cymryd amser i symud yr angor.

Dywedodd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu Paul Duggan, sy'n ymchwilio i'r drosedd, y dylai pobl gydag offer morol yn yr ardal fod yn wyliadwrus a chysylltu gyda'r heddlu os ydyn nhw'n gweld unrhywbeth amheus.

"Rydan ni yn cynghori perchnogion i gadw golwg ar eu heiddo a gwneud yn siwr bod popeth wedi ei warchod ac wedi ei gloi os yw hynny yn bosib fel nad oes cyfleoedd pellach i ladron."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111, gan roi'r cyfeirnod RC14052924.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.