'Ffraeo' rhwng chwaraewyr Abertawe

Garry Monk
Image caption Mae Garry Monk yn wynebu brwydr i gadw Abertawe yn yr Uwch Gynghrair

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyfaddef bod rhai chwaraewyr wedi bod yn ffraeo ymysg ei gilydd yn ystod sesiynau hyfforddi.

Mae'n debyg i'r enghraifft ddiweddaraf ddigwydd cyn y gêm yn erbyn Chelsea y penwythnos diwethaf, lle collodd yr Elyrch 0-1 yn Stadiwm y Liberty.

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb: "Oedd, roedd cwpl o ddigwyddiadau rhwng rhai chwaraewyr, dyw'r clwb ddim yn derbyn yr ymddygiad yma ond rydym ni yn ei ddeall.

"Fe gafodd y digwyddiadau eu rheoli'n gyflym ac mae pawb wedi symud ymlaen."

Nid hwn yw'r tro cyntaf i Abertawe gael problemau mewn sesiynau hyfforddi - fis Ionawr roedd helynt rhwng Chico Flores a Garry Monk, sydd bellach yn rheolwr.

Fe wnaeth aelod o'r cyhoedd alw'r heddlu bryd hynny, ac fe aethon nhw i'r maes hyfforddi i werthuso'r sefyllfa.

Ychwanegodd llefarydd y clwb: "Mae'r pethau yma'n digwydd ar feysydd hyfforddi ledled y wlad, felly nid oes angen i gefnogwyr yr Elyrch boeni, er gwaetha'r adroddiadau sydd yn y wasg.

"Roedd y garfan newydd ddychwelyd i ymarfer yn dilyn colled siomedig yn erbyn Hull ac fe wnaeth eu rhwystredigaeth am beidio â chael y canlyniad roedden nhw eisiau eu trechu mewn gêm ymarfer 11 yn erbyn 11.

"Mae llawer o enillwyr o fewn y garfan, ac maen nhw eisiau gorffen y gwaith. Does ond angen i chi edrych ar yr ymrwymiad a'r ymdrech yn erbyn Chelsea ddydd Sadwrn, 'efo dim ond 10 dyn, i weld hynny.

"Roedd yn sicr yn edrych fel tîm oedd yn ymladd dros ei gilydd, yn hytrach nag yn erbyn ei gilydd bryd hynny."

Straeon perthnasol