Uwch Gynghrair i ymchwilio i honiadau Clwb Caerdydd

Solskjaer
Image caption Mae clwb Ole Gunnar Solskjaer yn honni bod Crystal Palace, a enillodd y gêm 3-0, yn gwybod pwy oedd yn eu tîm 24 awr cyn i'r gêm ddechrau.

Mae'r Uwch Gynghrair wedi cadarnhau y bydd yn ymchwilio i honiadau bod manylion cyfrinachol am dîm pêl-droed Caerdydd wedi cael eu rhyddhau cyn eu gêm yn erbyn Crystal Palace.

Mae Cadeirydd clwb Caerdydd, Mehmet Dalman, wedi sôn am yr honiadau wrth yr Uwch Gynghrair.

Mae llefarydd ar ran y gynghrair yn dweud eu bod wedi derbyn cwyn swyddogol gan glwb Dinas Caerdydd ac fe fyddan nhw rwan yn ymchwilio i'r mater.

Mae'r Adar Gleision yn honni bod Crystal Palace, a enillodd y gêm 3-0, yn gwybod pwy oedd yn eu tîm 24 awr cyn i'r gêm ddechrau.

Dydy timau pêl-droed ddim fel arfer yn cael gwybod tan yn fuan cyn gêm pwy yw'r chwaraewyr yn eu herbyn.

Mae clwb Caerdydd rwan yn dwyn achos disgyblu yn erbyn dau weithiwr.

Colli

Roedd colli yn erbyn Palace ar y 5ed o Ebrill wedi gadael tîm Ole Gunnar Solskjaer yn y 19eg safle.

Mae nhw wedi aros yno er gwaethaf curo Southampton 1-0 dros y penwythnos.

Dydy'r achosion disgyblu ddim yn cynnwys unrhyw chwaraewyr ond mae'r clwb yn credu bod tor-cyfrinach yn fater o ddiswyddo.

Mae Cadeirydd Crystal Palace, Steve Parish, wedi gwrthod ymateb ar y sail nad oedd am ''fwydo'' y cyhuddiadau.

Mae Solskjaer hefyd wedi dewis peidio siarad am y cyhuddiadau yn benodol, ond mae wedi gwadu'n llwyr yr awgrymiadau bod chwaraewyr yn gysylltiedig â rhyddhau'r wybodaeth.

Capten

Mae'r capten, Steven Caulker, wedi dweud ei fod yn "rhwystredig" gan y gallai'r ffrae dynnu sylw i ffwrdd o'r frwydr i osgoi disgyn i adran is.

"I fod yn onest, mae 'na bethau fel hyn drwy'r tymor lle mae rhai pethau wedi cael eu rhyddhau," dywedodd Caulker.

Fodd bynnag, fe eglurodd yr amddiffynwr yn hwyrach ei fod yn cyfeirio at gyfrinachau am faterion gwahanol i ddewis y tîm.

"I mi, mae'n rhwystredig achos mae angen i ni ganolbwyntio ar be sy'n digwydd ar y cae a ddim ar be sy'n digwydd oddi ar y cae", ychwanegodd Caulker.

Straeon perthnasol