76 o swyddi'r 'Shropshire Star' dan fygythiad

Shropshire Star
Image caption Mae'r 'Shropshire Star' yn bapur sy'n cael ei ddarllen yng ngogledd Powys a'r gororau.

Mi allai 76 o swyddi gael eu colli gyda'r cwmni sy'n cynhyrchu papurau newydd y 'Shropshire Star' a'r 'Express & Star'.

Mae'r cwmni cyhoeddi Midland News Association am ailstrwythuro'r ddau bapur fyddai'n golygu eu symud yn gynhyrchiad dros nos.

Mae cyfnod ymgynghori o 45 diwrnod wedi dechrau.

Mae'r 'Shropshire Star' yn bapur sy'n cael ei ddarllen yng ngogledd Powys a'r gororau.

Gweithwyr

Mae'n debyg bod gweithwyr wedi clywed am y cynlluniau ddoe, ac mae posibilrwydd y gallai hyd at 76 o swyddi ddiflannu o bob adran gan gynnwys yr adran olygyddol, hysbysebu, dosbarthu a thrafnidiaeth.

Mae'r ddau bapur ar hyn o bryd yn cael eu printio ar y dydd ond, gyda'r cynlluniau newydd, fe allai hyn symud i dros nos - symudiad tebyg a wnaed gan y 'Birmingham Mail' bum mlynedd yn ôl.

Mewn datganiad ar wefan y cwmni, mae'r rheolwr gyfarwyddwr, Phil Inman, yn dweud bod angen ailstrwythuro er mwyn hybu eu gwaith digidol er mwyn cyrraedd anghenion eu cynulleidfa arlein sy'n tyfu ac i hybu incwm.