Llai o ferched yn chwarae golff

Golff

Mae nifer y merched yng Nghymru sy'n aelodau o glybiau Golff wedi cwympo ugain y cant ers 1985.

Yn ôl ffigurau gafodd eu cyhoeddi gan un o brif gyrff llywodraethu golff - Asiantaeth Golff Ewrop - dim ond 6,300 o ferched Cymru fuodd yn aelodau o glybiau yn 2013, o'i gymharu â bron i 8,000 yn 1985.

Tra bod cwymp sylweddol wedi bod yng Nghymru mi roedd 'na gynnydd yn nifer y merched sy'n aelodau ym mhob un o wledydd eraill Prydain yn ystod yr un cyfnod - 8% yn fwy yn Lloegr, 12% yn yr Alban a 71% yn Iwerddon.

Tra bod llai o ferched Cymru yn ymaelodi â chlybiau fe gynyddodd nifer yr aelodau gwrywaidd yn ystod yr un cyfnod. Mi roedd 38% yn fwy o ddynion Cymru yn aelodau yn 2013 nag yn 1985.

Arian ac amser

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Elin James Jones yn siarad â Sian Elin Jones

Yn ôl Sian Elin Jones sydd wedi bod yn chwarae golff ers dros ddeunaw mlynedd, mae rhesymau ymarferol dros hyn.

"Mae 'na rwystrau pendant i fynediad i golff, amser ac arian yw dau o'r brif ddau wrth gwrs ond dyw hynny heb newid dros y blynyddoedd diwethaf, maen nhw erioed wedi bod yna," meddai.

"Beth sydd wedi newid yw ein ffordd ni o fyw a dyddiau 'ma mae lot fwy o fenywod yn gweithio, naill ai'n rhan amser neu'n llawn amser.

"Hefyd mae'n rhaid cofio ein bod ni newydd fod drwy gyfnod o ddirwasgiad a chaledi ariannol."

Er i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ffigurau yr wythnos ddiwetha' yn dangos fod nifer y bobl sy'n ymweld â Chymru i chwarae golff yn cynyddu 41% ers 2004 gan greu £313 miliwn i'r economi - nid yw'r effaith i'w weld ymysg merched ar lawr gwlad.

'Angen newid agweddau'

Image copyright AFP
Image caption Mae angen arwyr benywaidd ym myd golff, yn ôl Anna Carling, nid ond rhai gwrywaidd fel Jamie Donaldson

Mae Anna Carling, fuodd ar ysgoloriaeth pedair mlynedd i chwarae golff ym Mhrifysgol Arkansas yn yr Unol Daleithiau, yn credu bod angen newid agweddau er mwyn denu mwy o ferched i chwarae'r gêm.

"'Dw i'n meddwl bod rhaid i glybiau newid ei agwedd nhw tuag at golff menywod," meddai.

"Mae 'na lot yn meddwl bod merched ddim yn dda neu ddim yn gallu neud e a 'di awyrgylch mewn clybiau golff dim yn groesawgar i lot o ferched a dwi'n meddwl bod rhaid wynebu hynny.

"'Dw i'n meddwl mai rhan o'r broblem yw fod clybiau yn breifat - be fyddwn i'n neud falle yw cael gwared ar y rheolau dillad achos os chi'n ferch ac yn 15 mlwydd oed chi ddim eisiau gwisgo chinos a polo shirts a ballu ar fore dydd Sadwrn felly byddwn i falle'n trio newid delwedd golff yn y clybiau a cheisio'i wneud e fwy croesawgar."

Darlun anghyflawn?

Image caption Cafodd Cwpan Ryder 2010 ei gynnal yn Celtic Manor, ger Casnewydd

Mae Hannah Fitzpatrick o Undeb Golffwyr Cymru yn cwestiynu gwerth y data: "Mae gennym ni amheuon am y ffigurau am eu bod ond yn cymryd i ystyriaeth aelodaeth draddodiadol o glybiau.

"Ry'n ni'n ceisio annog ffyrdd eraill o recordio data er enghraifft drwy ystyried ein prosiect newydd New2Golf sy'n cynnig aelodaeth mwy hyblyg i rai sydd eisiau chwarae'r gêm.

"Yn dilyn Pencampwriaeth y Cwpan Ryder yng Ngwesty'r Celtic Manor yn 2010, cafodd Tîm Datblygu Golff Cymru ei sefydlu i geisio cael mwy o bobl i fentro.

"Drwy fuddsoddiad gan Chwaraeon Cymru mae New2Golf yn cynnig diwrnod blasu am ddim ac yna chwe wythnos o wersi rhad, hwyliog i grwpiau gyda swyddog proffesiynol PGA. Mae hyn yn cynnwys talebau fel 50% oddi ar wersi unigol, gwersi i deuluoedd, yswiriant a chynigion eraill.

"Ar ôl y gwersi - bydd clybiau yn cynnig aelodaeth brawf i wneud yn siŵr bod yr unigolion yn cael profi aelodaeth o'r clwb. Ers sefydlu'r cynllun dros ddwy flynedd yn ôl mae mwy na 1800 o bobl wedi dod yn aelodau o New2Golf ac mae 60% o'r rheiny yn ferched."

Mae Chwaraeon Cymru newydd gyhoeddi buddsoddiad o £3 miliwn i daclo anghydraddoldeb mewn chwaraeon - gan gynnwys £1.5m o arian y Loteri Cenedlaethol ar gael i brosiectau i annog mwy o ferched a menywod ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.