Lladron yn dwyn arian o siop yn Y Rhyl

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio am ladron sydd wedi dwyn arian o siop yn Y Rhyl.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r One Stop Shop am 10.55 nos Fawrth, Ebrill 15.

Rhedodd dau droseddwr o'r siop gyda'r arian.

Roedd y gweithwyr wedi cael braw ond heb gael unrhyw anafiadau.

Holi

Dywedodd Ditectif Arolygydd Jonathan Salisbury-Jones fod plismyn wedi chwilio'r ardal o gwmpas y siop ond heb ddal y troseddwyr.

"Mae'r ymchwiliad yn parhau a bydd ein swyddogion yn holi o dŷ i dŷ," meddai.

"Rydym yn awyddus i siarad gydag unrhyw un oedd o gwmpas y siop adeg y lladrad, neu unrhyw un a welodd rhywbeth amheus."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 gan ddyfynnu'r rhif, R055704, neu ffonio Taclo'r Tacle'n yn ddi-enw ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.