Ail-blannu 750,000 o goed llarwydd

hoed Gwent yn Nyffryn Gwy
Image caption Fe gafodd coed mewn ardal maint 300 o gaeau pêl-droed eu difa yng Nghoed Gwent yn Nyffryn Gwy.

Mae'r gwaith wedi'i gwblhau o ailblannu rhannau eang o goetir a effeithiwyd gan glefyd y llarwydd (larch disease).

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn ailstocio coedwigoedd ledled Cymru dros yr wythnosau diwethaf.

Mae'r rhain yn cynnwys ardaloedd megis Bwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth, Cwm Afan ger Castell-nedd a Choed Gwent yn Nyffryn Gwy.

Fe ddaeth clefyd y llarwydd i'r golwg yn 2010 ac mae'n ffwng Phytophthora Ramorum sy'n achosi i'r coed bydru.

Roedd yn rhaid torri'r coed oedd wedi cael eu heffeithio am eu bod yn cynhyrchu sborau sy'n gallu lledaenu'r clefyd, o goeden i goeden drwy'r aer, i ardaloedd eraill a rhywogaethau coed eraill.

Ailblannu 37 rhywogaeth o goed

Yn y 18 mis diwethaf, mae arbenigwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru wedi plannu mwy na 750,000 o goed i ailstocio ardaloedd a gwympwyd yn sgil y clefyd.

Mae hyn ochr yn ochr â'r 3.4 miliwn o goed a ailblannwyd mewn coetiroedd eraill i adfywio'r coedwigoedd ar ôl torri ar gyfer cynhyrchu pren.

Mae'r gwaith wedi ei ariannu yn rhannol gan £2.5 miliwn o arian ychwanegol gan Llywodraeth Cymru.

Bellach mae'r arbenigwyr yn ailblannu 37 rhywogaeth wahanol o goed yn lle'r rheiny a gwympwyd, yn cynnwys coed derw, ceirios a phisgwydd cynhenid. Hefyd maent yn plannu coed sydd yn bren haws ei farchnata fel ffynidwydd Douglas, sbriws Serbia a chedrwydd cochion.

Mae hyn ddwywaith nifer y rhywogaethau coed a fyddai wedi cael eu plannu ddeng mlynedd yn ôl.

Y nod yw creu coetir sy'n gallu gwrthsefyll clefydau yn well a chreu coedwig fwy deniadol i ymwelwyr a chynnig cynefin i fwy o rywogaethau bywyd gwyllt.

6,600 hectar wedi'u heffeithio

Mae'r gwaith ailblannu ar ystâd goetir Llywodraeth Cymru yn digwydd mewn ymateb i'r angen i dorri dros 2 miliwn o goed, a oedd yn gorchuddio bron i 2000 hectar o dir.

Image caption Fe gafodd hyd at 10,000 o goed llarwydd eu torri ym Mwlch Nant-yr-Arian

Cadarnhawyd bellach fod coed a heintiwyd yn gorchuddio dros 6600 hectar o goetir, 5300 ohonynt ar ystâd goetir Llywodraeth Cymru a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Fe ddaeth arolygon yn 2013 i'r casgliad fod y clefyd wedi lledaenu'n gynt na'r disgwyl wedi i aeaf gwlyb a chynnes greu'r hinsawdd berffaith i'r sborau deithio i goed eraill.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal mwy o arolygon yn y misoedd nesaf i asesu hyd a lled yr ardaloedd a heintiwyd gan y clefyd.

Creu coetiroedd mwy gwydn

Meddai Neil Muir o Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae mynd i'r afael â'r clefyd hwn yn ein coed llarwydd yn dasg anodd.

"Rydym yn gweithio ar strategaeth newydd Llywodraeth Cymru sy'n anelu i arafu'r clefyd drwy dorri coed mewn ardaloedd a heintiwyd o'r newydd.

"Serch hynny, mae yna agwedd bositif i'r clefyd hwn oherwydd mae gennym gyfle unwaith mewn oes i ailgynllunio'r coedwigoedd sydd yn ein rheolaeth i'w gwneud yn fwy gwydn yn wyneb clefydau ac yn llefydd gwell i bobl a bywyd gwyllt."

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn i bobl helpu rheoli lledaeniad clefydau fel hyn drwy gadw at lwybrau'r goedwig, cadw cŵn ar dennyn a glanhau pridd, nodwyddau a thameidiau o blanhigion oddi ar esgidiau a dillad ar ddiwedd ymweliad â choedwigoedd.

Straeon perthnasol