Prifysgol Glyndŵr: 'trafodaethau addawol'

Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam
Image caption Mae'r ymgynghori am golli swyddi ym Mhrifysgol Glyndŵr yn parhau.

Mae undebwyr yn disgwyl y bydd trafod newidiadau ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam yn parhau ar ôl y dyddiad terfynol, Ebrill 30.

Ers wythnosau mae staff academaidd a gweithwyr wedi bod mewn cyfnod ymgynghori oherwydd cynlluniau sy'n golygu bod 10% neu 65 o staff yn cael eu diswyddo.

Dywedodd trefnydd Unsain Geoff Edkins fod cyfarfodydd diweddaraf gyda'r brifysgol wedi bod yn fwy "addawol."

"Ar y cychwyn roedd yna anawsterau, roedd hi'n anodd cael y brifysgol i gymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau o sylwedd.

'Yn well'

"Ond mae'r cyfarfodydd diweddaraf wedi bod yn well ac yn fwy adeiladol.

"Roedd yna nifer o gwestiynau doedd y rheolwyr ddim eisiau eu hateb ond, wrth ddyfalbarhau, rydym wedi gallu eu perswadio i ddilyn y llwybr cywir.

"Rydym yn gobeithio na fydd swyddi yn cael eu colli yn orfodol.

"Hyn ydi'r sefyllfa roeddem yn gobeithio ei chyrraedd."

Parhau

Dywedodd llefarydd ar ran y Brifysgol, bod y sefyllfa ymgynghori yn parhau.

"Mae'r brifysgol o'r farn fod y cynlluniau ar gyfer newidiadau yn mynd i fod o fudd i'r brifysgol a'u gweithwyr yn y tymor hir.

''Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i wneud y newidiadau hyn trwy gydweithio'n llawn gyda'u staff a'u gweithwyr."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.