'Y Gymraeg yn ystyriaeth eilradd'

Gwaith Cymraeg
Image caption Does dim digon o staff yn siarad yr iaith er mwyn ateb galwadau yn Gymraeg, yn ôl y cyngor

Mae Cyngor Casnewydd wedi cydnabod mai "ystyriaeth eilradd" yw'r iaith Gymraeg pan maen nhw'n ffurfio polisïau.

Daw'r sylwadau mewn ymateb i ymgynghoriad Comisiynydd y Gymraeg ynglŷn â pha safonau dylai sefydliadau orfod eu dilyn.

Mae'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal i roi cyfle i sefydliadau rannu eu barn cyn i'r safonau ddod yn gyfraith gwlad.

Mae dogfen y cyngor yn dweud: "Mewn llawer o achosion, bydd unrhyw effaith bositif neu negyddol ar yr iaith Gymraeg yn ystyriaeth eilradd."

'Amhosibl'

Mae naw o'r 134 safon drafft yn ymwneud â gwasanaethau ffôn, ac maen nhw'n cynnwys bod rhaid cael darpariaeth i dderbyn galwadau yn y Gymraeg a bod ffordd o gysylltu gyda phobl yn Gymraeg os mai dyna yw eu dymuniad.

Yn ôl Cyngor Casnewydd, ni fyddai'n rhesymol disgwyl iddyn nhw wneud hyn.

Mae eu dogfen yn dweud: "Er y bydd Cyngor Casnewydd yn gwneud pob ymdrech i gyflawni'r safon hon, mae sgiliau iaith Gymraeg ein staff presennol yn ei wneud yn amhosibl i ni ddarparu'r un gwasanaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg.

"Does dim ffordd amlwg o ateb y sefyllfa gan ystyried demograffeg yr ardal a'r sefyllfa ariannol bresennol, sy'n rhoi cyfyngiadau sylweddol ar y gallu i benodi staff newydd."

'Cost sylweddol'

Mae'r cyngor yn dweud eu bod yn meddu ar y gallu i gynhyrchu cyhoeddiadau yn ddwyieithog, ond y byddai hyn yn arwain at "gost ychwanegol sylweddol", sef £7,040 y flwyddyn.

Mae'r ddogfen yn dweud: "Gan ystyried lefelau sgiliau Cymraeg lleol, mae'n anhebygol y byddai llawer o alw am lawer o'r rhestr sy'n rhan o'r safonau, yn enwedig o ystyried y gost."

Yn dilyn hyn, mae'r ddogfen yn dyfynnu Cyfrifiad 2011, sy'n nodi faint o bobl o bob oedran sy'n siarad yr iaith.

Mae'r cyngor yn dweud eu bod yn fodlon cymryd camau i wneud eu gwefan yn ddwyieithog, ond dydyn nhw ddim yn meddwl ei fod o'n rhesymol rhoi blaenoriaeth i'r Gymraeg ar arwyddion.

Yn ôl y cyngor, byddai hyn yn "amhriodol, afresymol ac anghymesur, gan ystyried anghenion y mwyafrif llethol o bobl sy'n byw yng Nghasnewydd".

Fe bleidleisiodd cabinet y cyngor, sy'n cael ei reoli gan y Blaid Lafur, o blaid cyflwyno'r ddogfen.

Straeon perthnasol