Gyrrwr beic modur wedi marw yn Llanfair ym Muallt

Mae gyrrwr beic modur wedi marw ar ôl damwain ar ffordd yr A483 yn Llanfair ym Muallt. Doedd na ddim cerbyd arall yn gysylltiedig â'r ddamwain meddai'r heddlu.

Mi gafodd yr heddlu ei galw toc wedi hanner awr wedi un ddydd Gwener ac mi aeth y gyrrwr i'r ysbyty. Ond mi fuodd o farw'r diwrnod wedyn.

Gofynnir i unrhyw un a welodd yr hyn ddigwyddodd i gysylltu gyda'r heddlu trwy ffonio 101.