Etholiad, refferendwm ac etholiadau

Ewrop
Image caption Mae'r rhai'n darogan y bydd Llafur yn ennill ail sedd Ewropeaidd Gymreig, fyddai'n gweld un ai'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru neu Ukip yn colli ei ASE

Mae'n debyg mai Pasg eleni yw'r cadoediad olaf cyn rhyfel wleidyddol a fydd yn para am y ddwy flynedd nesaf.

Ar ôl cyfnod cymharol hesb o safbwynt etholiadol mae gwleidyddion yn awr yn wynebu cyfres o etholiadau a fydd yn gosod meini prawf llym i bob un o'r pleidiau.

Etholiadau Ewrop ar yr 22ain o Fai yw'r ornest fawr gyntaf - etholiad lle ddisgwylir i bleidiau asgell dde eithafol ennill tir mewn cyfres o wledydd ar draws y cyfandir.

Ym Mhrydain mae'r arolygon barn yn awgrymu mai brwydr rhwng Llafur ac Ukip fydd hi ddod yn gyntaf o safbwynt maint y bleidlais a'r nifer o seddi gyda'r Ceidwadwyr mewn peryg o ostwng i'r trydydd safle.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn wynebu sefyllfa hyd yn oed yn fwy peryglus gyda Llywydd y blaid, Tim Farron, yn awgrymu y gallasai'r blaid golli pob un o'i seddi yn senedd Ewrop.

Yng Nghymru mae cynrychiolaeth Plaid Cymru ym Mrwsel hefyd o dan fygythiad yn ôl yr arolygon barn.

Beth bynnag yw'r canlyniad ym mis Mai, megis dechrau mae'r gwleidydda gyda refferendwm annibyniaeth yn dilyn yn yr hydref.

Gwaddol yr Omnishambles

Pe bai 'na bleidlais 'Ie' yn yr Alban fe fyddai etholiad cyffredinol 2015 yn un hanesyddol gydag aelodau'r Alban i bob pwrpas yn cael eu hethol am hanner y tymor seneddol gyda newid llywodraeth yn bosib adeg eu hymadawiad.

Ond hyd yn oed os ydy'r Deyrnas Unedig yn goroesi'r refferendwm fe fydd etholiad 2016 yn ornest ffyrnig gyda'r arolygon barn ar hyn o bryd yn awgrymu bod Llafur a'u trwynau ar y blaen.

Er nad yw'r fantais Llafur yn un sylweddol mae hi wedi profi'n wydn ers i Lafur goddiweddid y Ceidwadwyr yn sgil cyllideb yr 'omnishambles' yn 2012. Gyda'r gyfundrefn etholiadol yn ffafrio Llafur fe fyddai mantais o ddau neu tri y cant yn ddigon i sicrhau mwyafrif dros bawb i Lafur.

Mae'r talcen sy'n wynebu'r Ceidwadwyr yn un llawer caletach. Does ers 1945 ddim un blaid wedi llwyddo i gynyddu ei siâr o'r bleidlais tra'n llywodraethu. Roedd hynny hyd yn oed tu hwnt i alluoedd Margaret Thatcher yn 1983.

Serch hynny hon yw'r glymblaid gyntaf yn San Steffan yn ystod y cyfnod hwnnw felly mae'n bosib bod gormod o bwyslais yn cael ei roi ar y cynseiliau hanesyddol.

Oni cheir daeargryn wleidyddol, ymladd am eu heinioes wleidyddol fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2015 tra bydd llygaid Plaid Cymru ar etholiad y Cynulliad ddeuddeg mis yn ddiweddarach.

Fe fydd canlyniad hwnnw yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar ganlyniadau gornestau blaenorol.