Sgwd y News

Os ydych chi'n defnyddio tabled neu ffôn i ddarllen gwefan newyddion BBC Cymru mae'n debyg eich bod wedi sylwi bod gwasanaeth newydd "Cymru Fyw" wedi ei lansio heddiw. Mae'r gwasanaeth o hyd ar ffurf arbrofol (beta) a dyw e ddim ar gael ar bob dyfais eto - ond fe ddaw hynny'n weddol o fuan.

Hyd yma mae pethau'n argoeli'n dda er fy mod yn siomedig na fabwysiadwyd fy awgrym i ar gyfer enw'r gwasanaeth. Beth ar y ddaear dydd o le ar y "Sgwd Newyddion"? Rhy ddeheuol, efallai.

Ta beth, ar ôl hynny o hysbyseb, bob tro mae un o'r gwasanaethau newydd yma'n lansio mae'n fy atgoffa o gymaint o newid sydd wedi bod yn y busnes yma ers i mi ddechrau yma.

Roedd ystafell newyddion BBC Cymru llawer yn llai ar ddiwedd y 1970au - y lle yn las dan fwg ac yn aruthrol o swnllyd. Roedd rhyw hanner dwsin o 'teleprinters' yn taranu'n gyson gyda'r diweddara gan yr asiantaethau newyddion, ffonau'n canu byth a hefyd wrth i ohebwyr fwydo copi i mewn i'r system a'r bwletinau yn cael eu teipio mas ar deipiaduron trymion.

Roedd 'na ambell i gyw newyddiadurwr am i ni fabwysiadu'r dechnoleg ddiweddaraf - teipiaduron trydan a thapiau casét, er enghraifft, ond wfftio'r fath syniadau wnaeth yr hen stejars a'r undebau.

Yr hyn sy'n rhyfedd, o edrych yn ôl yw cyn lleied o newyddion oedd yn cael ei ddarlledu mewn gwirionedd. Yn y Gymraeg roedd 'na fwletinau byrion yn cael ei darlledu bob awr ar Radio Cymru ynghyd a thair rhaglen chwarter awr sef Cyn Saith, Cyn Wyth a Chyn Un. Rhaglen gylchgrawn oedd Post Prynhawn bryd hynny - roedd hi'n cynnwys rhyw faint o newyddion - ond dim llawer. Roedd y ddarpariaeth ar deledu hyd yn oed yn fwy tila. Un bwletin pum munud o hyd oedd yna - a honna oddi mewn i'r rhaglen gylchgrawn "Heddiw".

Yn y Saesneg roedd y ddarpariaeth ychydig yn fwy swmpus ond yn ddim byd o gymharu â'n dyddiau ni.

Wrth gwrs, mae'r trawsnewidiad sydd wedi bod yng Nghymru yn pylu o gymharu'r a'r chwyldro ar lefel Brydeinig a rhyngwladol gyda'r sianelu newyddion rhif y gwlith a miloedd os nad miliynau o wefannau yn cystadlu am sylw.

Ac at ba ddiben? Er bod cymaint yn fwy o wybodaeth ar gael a chymaint yn fwy o drin a thrafod ar bynciau mawr y dydd, oes modd i ni ddweud, â llaw ar galon, bod pobol heddiw yn fwy gwybodus ynghylch gwleidyddiaeth ac yn cymryd mwy o ddiddordeb yn y rheiny sy'n eu llywodraethu?

Mae'r niferoedd sy'n pleidleisio yn awgrymu'n wahanol.

Y peryg yw ein bod wedi creu peiriant newyddion - anghenfil sy'n amhosib ei ddiwallu. Yn bwydo'r Moloch hwn mae llwyth o newyddiadurwyr, gwleidyddion a sbin-ddoctoriaid sy'n palu ffeithiau, safbwyntiau a straeon diddiwedd i'w enau trachwantus. Y broblem yw y gallai'r cyfan fod yn llai a llai perthnasol i'r etholwyr.

Hon yw'r swigen wleidyddol y mae cymaint o boeni yn ei chylch y dyddiau hyn. Gobeithio'n wir y bydd Sgwd y News yn gallu pistyllu ei ffordd allan ohoni gyda phenawdau bachog ac agwedd ffres a ffwrdd a hi.

Fe gawn ni weld. Pob lwc!