Apêl am wybodaeth yn dilyn ymosodiad yn Y Fenni

Heddlu

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad difrifol ar ddyn yn Y Fenni ar nos Sadwrn, Ebrill 19.

Cafodd dyn 46 oed anafiadau i'w wyneb a'i goes yn yr ymosodiad ar Granville Street.

Digwyddodd yr ymosodiad yn dilyn ffrae rhwng y dyn a chwsmeriaid tafarn y Nag's Head. Cafodd y dyn ei ymosod arno gan dri o ddynion y tu allan i'r dafarn.

Mae un dyn lleol, 59, wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol, ac wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Mae'r heddlu yn chwilio am ddyn gwyn yn ei 30au cynnar, gyda'i wallt wedi ei eillio a oedd yn gwisgo siwmper lwyd, jîns ac esgidiau rhedeg gwyn.

Maen nhw hefyd yn edrych am ail ddyn tua 25 neu 26 oed gyda gwallt brown, oedd yn gwisgo crys-t du, jîns ac esgidiau brown.

Mae'r Heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i alw 101 gan roi rhif 329 19/4/14.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.