Cyfle i hel achau ym Mhrifysgol Bangor

Hel achau ym Mangor
Image caption Cafodd Elen Simpson lwyddiant wrth ddefnyddio'r archif newydd

Gall unrhyw un sy'n ymchwilio i hanes eu teulu gael mynediad at gronfa ddata helaeth o gofnodion yn Archifau Prifysgol Bangor.

O ganlyniad i roddion gan gyn-fyfyrwyr y brifysgol, mae Cronfa Bangor wedi rhoi arian i Lyfrgell ac Archifau'r Brifysgol brynu mynediad at gronfa ddata ar-lein sy'n rhoi mynediad am ddim i dros 1.5 biliwn o gofnodion am hanes teuluoedd.

Mae'r cofnodion yn cynnwys manylion am enedigaethau, marwolaethau a phriodasau, llyfrau cofnodion plwyf, cofnodion milwrol a rhestrau teithwyr ar longau.

Mae'r Archifau yn rhoi gwasanaeth i fyfyrwyr a staff y brifysgol, ond mae canran uchel o ddefnyddwyr yr archifau yn ymchwilwyr nad oes ganddynt unrhyw gysylltiad uniongyrchol â'r brifysgol - nifer ohonynt yn haneswyr lleol neu'n rhai sy'n ymchwilio i hanes eu teulu.

Meddai Elen Simpson, archifydd yn y Brifysgol: "Ychydig fisoedd yn ôl, roeddwn yn ysgrifennu erthygl am yr ohebiaeth yn Archif y Brifysgol, rhwng tri milwr a oedd yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a Syr Ifor Williams, Athro Cymraeg y Brifysgol yr adeg honno.

"Mae'r dogfennau eu hunain yn datgelu llawer am yr awduron, ond er mwyn cael gwybod mwy amdanynt euthum ar y we a defnyddio'r feddalwedd Find My Past, sydd bellach ar gael yma yn yr archifdy.

'Mab i weinidog'

"Roedd popeth ar gael yno sef y cyfrifiad, cofnodion milwrol, llyfrau cofnodion plwyf, rhestri teithwyr ar longau, papurau newydd - mae'r rhestr yn faith. Gwelais ar unwaith yng nghyfrifiad 1901 bod un o'r milwyr, Arthur Wyn Williams, yn fab i weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd.

"Roedd yn un o bedwar o blant a chafodd ei fagu ym Mron Awel, Llanllechid. Erbyn cyfrifiad 1911, roedd Arthur yn 18 mlwydd oed ac yn byw yn Eryl, Glan Conwy ac yn fyfyriwr yn y brifysgol.

"Rydym yn gwybod o'r llythyrau ei fod yn aelod o'r 38ain Is-adran Gymreig o Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig (yr un gatrawd â Hedd Wyn), a'i fod wedi goroesi'r rhyfel. Ond roeddwn eisiau gwybod beth oedd ei hanes ar ôl y rhyfel.

"Dysgais yn weddol hawdd ei fod wedi mynd i weithio yn yr Unol Daleithiau fel newyddiadurwr i'r Manchester Guardian. Cefais hyd i'w gyfeiriad yn Efrog Newydd yn 1942 - 3209 Park Avenue, a hyd yn oed disgrifiad corfforol ohono sef ei fod yn 5 troedfedd 7 modfedd o ran taldra ac yn pwyso 185 pwys.

"Gwisgai sbectol ac roedd ganddo graith ar ei arddwrn de. Mae cofnodion y llongau hefyd yn datgelu ei fod wedi teithio yn ôl ac ymlaen rhwng Efrog Newydd a Phrydain nifer o weithiau cyn dychwelyd i fyw yma. Yn ôl y National Probate Calendar, bu farw Arthur ar 9 Tachwedd 1962 ac roedd yn byw yn Kenton, Middlesex gyda'i wraig Imogene Emma Williams."

'Mentrau trawsnewidiol'

Dywedodd Emma Marshall, Cyfarwyddwr Cronfa Bangor: "Diolch i'n cyn-fyfyrwyr sy'n cyfrannu'n hael at Gronfa Bangor, eleni rydym wedi llwyddo i rannu £91,000 rhwng 17 o brojectau a mentrau trawsnewidiol ym mhob rhan o'r brifysgol.

"Mae prynu 'Find My Past' i'r Archifau yn golygu y bydd yn ddefnyddiol i'r myfyrwyr a staff ac i'r gymuned yn ehangach hefyd."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.