Tu ôl i'r piws mae'r melyn

Mae'n hawdd anghofio weithiau ein bod ar ganol ymgyrch etholiad. Ymhen llai na mis fe fydd disgwyl i ni bleidleisio i ethol cynrychiolwyr Cymru yn Senedd Ewrop. Dwn i ddim amdanoch chi ond hyd yma dydw i ddim wedi derbyn yr un daflen etholiadol na galwad ffôn. Mae absenoldeb posteri gardd a ffenest hefyd yn drawiadol.

Roeddwn i'n amau efallai bod fy narn bach i o Gymru yn eithriad yn hynny o beth pan gwynodd cyfaill i mi am y taflenni gwleidyddol sy'n cyrraedd ei dŷ yn ddyddiol bron. Nes, hynny yw, i mi sylweddoli ei fod yn byw yng Ngogledd Caerdydd ac mai brolio ynghylch rhagoriaethau Mari Williams a Craig Williams yr oedd y taflenni hynny.

Fel mae'n digwydd, rwy'n credu y gallasai etholiadau a gynhelir ar yr ail ar hugain o Fai eleni fod yn rhai hanesyddol bwysig - ond nid etholiadau Ewrop yw'r rheiny ac nid yng Nghymru maen nhw'n cael eu cynnal.

Cyfeirio at etholiadau lleol Lloegr ydw i - etholiadau sydd â'r potensial i fod yn drawsnewidiol i ddwy blaid - y Democratiaid Rhyddfrydol ac Ukip.

Erbyn hyn mae patrwm llywodraeth leol yn Lloegr yn wahanol iawn i un Cymru. Does dim angen i boeni'n ormodol am hynny.

Dau beth sydd angen nodi mewn gwirionedd. Y cyntaf yw bod rhyw 160 o gynghorau a rhai miloedd o gynghorwyr i'w hethol. Mae'r rhain yn etholiadau pwysig felly.

Yr ail ffaith ddiddorol yw mai ar y 6ed o Fai 2010 - diwrnod yr Etholiad Cyffredinol y cafodd y seddi yma eu rhoi ar ofyn yr etholwyr ddiwethaf.

Hon yw caer fechan olaf y Democratiaid Rhyddfrydol felly. Efallai bod 'na beth rhyddhad yn rhengoedd y blaid y bydd y cyfan o'r difrod lleol a achoswyd gan y penderfyniad i glymbleidio wedi ei gwblhau wrth i'r pleidleisiau gael ei gyfri. Ond fe fydd y pris a dalwyd yn un enfawr.

Cyfle nid cosb yw'r etholiadau i Ukip. Ers rhai blynyddoedd bellach mae'r blaid wedi llwyddo i fagu gwreiddiau lleol yn rhannau o Loegr, o leiaf. Mae'r ffaith bod yr etholiadau lleol yn digwydd ar yr un diwrnod ac etholiadau Ewrop yn gyfle i fwrw'r gwreiddiau'n ddyfnach gan sefydlu presenoldeb sylweddol a hir-dymor ar sawl cyngor.

Mae'n bosib felly mai etholiadau 2014 fydd y foment lle gallwn ddweud bod gwleidyddiaeth Lloegr wedi datblygu i fod yn gyfundrefn pedair plaid - neu efallai'n gyfundrefn dwy blaid a dau hanner!

Yng Nghymru mae'r sefyllfa'n wahanol iawn.

Doedd dim rhaid i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru ddioddef colledion lleol arteithiol yn flynyddol. Digwyddodd y gyflafan gyfan ar un noson yn ôl yn 2012 pan gollodd y blaid rhyw drigain o seddi cyngor - deugain y cant o'r cyfanswm blaenorol. Roedd honno'n ergyd drom ond mae'r blaid wedi llwyddo i'w goroesi - hyd yma.

Yr hyn sy'n drawiadol am Ukip yng Nghymru yw methiant y blaid i sefydlu unrhyw fath o drefniadaeth ar lawr gwlad y tu hwnt i ambell i le yn y gogledd. Ac eithrio cynghorwyr cymuned, tri chynghorydd yn unig sydd gan Ukip yng Nghymru ac mae un o'r rheiny yn un wnaeth ymuno a'r blaid ar ôl ei ethol.

Eto i gyd mae'r arolygon barn, gan gynnwys un a gyhoeddwyd heddiw, yn awgrymu nid yn unig y bydd y blaid yn dal ei sedd yn senedd Ewrop ond mai hi fydd y bedwaredd blaid yn y Cynulliad ar ôl etholiad 2016.

Mewn gwirionedd mae Ukip yng Nghymru yn rhyw fath o rith-blaid - yn ddibynnol am ei chefnogaeth ar y sylw y mae'n derbyn ar y cyfryngau torfol yn enwedig y rheiny o du hwnt i Gladd Offa.

Gallai hynny newid wrth gwrs ond pwy all feio ambell i Ddemocrat Rhyddfrydol am deimlo'n flin bod yr holl daflenni Ffocws yna wedi cyflawni cyn lleied a bod Ukip yn ei chael hi mor hawdd i ddenu'r miloedd.