Cymru'n cyflwyno cais Euro 2020

Stadiwm y Mileniwm
Image caption Mi fydd raid i Gaerdydd gystadlu'n erbyn Glasgow, Dulyn a Llundain

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau fod cais wedi ei wneud i Gaerdydd fod yn un o'r dinasoedd fydd yn cynnal gemau yng nghystadleuaeth Euro 2020.

Os byddai Caerdydd yn cael ei dewis fel un o'r 13 dinas, mi fyddai gemau'n cael eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm.

Mae'r gymdeithas yn gobeithio cynnal tair gêm grŵp ac un ai gêm yn rownd yr 16 olaf neu'r wyth olaf yn Stadiwm y Mileniwm.

Bydd Uefa yn penderfynu ym mis Medi pa ddinasoedd fydd yn cael eu dewis.

'Cynnig cryf'

Dywedodd prif weithredwr y Gymdeithas Bêl-droed, Jonathan Ford: "Mae'r Gymdeithas wrth ei bodd i gyflwyno'r cais ar gyfer Uefa Euro 2020 ac rydym yn credu ein bod â chynnig cryf.

"Mae Stadiwm y Mileniwm yn dal 75,000 o bobl yn ogystal â 100 o flychau lletygarwch, fyddai'n creu incwm sylweddol i Uefa."

Yn ôl Mr Ford, mi fyddai meysydd awyr Caerdydd a Bryste'n golygu y byddai'n hawdd i gefnogwyr gyrraedd y gemau, a bydd posib teithio i brifddinas Cymru o Lundain mewn awr a hanner erbyn 2020.

Un sydd wedi rhoi ei gefnogaeth i'r syniad yw'r chwaraewr drytaf yn y byd, Gareth Bale.

'Cyfnod gwych'

"Gallai hwn fod yn ddechrau ar gyfnod gwych ar gyfer pêl-droed rhyngwladol Cymreig," meddai seren Real Madrid.

"Rwy'n credu ein bod â siawns dda o gyrraedd Euro 2016 yn Ffrainc - mi fyddai'n anhygoel wedyn i chwarae yn Euro 2020 yn fy ninas enedigol, sef Caerdydd."

Nid Caerdydd yw'r unig ddinas o ynysoedd Prydain sy'n awyddus i ddenu Euro 2016 - mae Glasgow, Dulyn a Llundain hefyd ymysg y 30 o ddinasoedd sydd wedi cyflwyno ceisiadau.

Mae pennaeth Cymdeithas Bêl-droed yr Alban yn credu ei fod yn "anhebygol iawn y bydd pedwar cais llwyddiannus o'r DU ac Iwerddon" ac yn rhagweld y bydd dinasoedd y pedair gwlad yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am y fraint.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.