Gleision: 'Sut llwyddais i ddianc'

Garry Jenkins, Philip Hill, Charles Breslin a David Powell
Image caption Bu farw Garry Jenkins, Philip Hill, Charles Breslin a David Powell (clocwedd) yn y digwyddiad

Mae dyn oedd yn gweithio yng nglofa'r Gleision pan lifodd y dŵr fewn, wedi bod yn disgrifio sut y gwnaeth o ddianc.

Dywedodd Derek Wyatt fod y foment y llifodd 65,000 o alwyni o ddŵr i mewn wedi swnio fel "injan jet".

Bu farw Philip Hill, Charles Breslin , David Powell and Garry Jenkins yn y drasiedi ym Medi 2011.

Mae'r rheolwr Malcolm Fyfield a pherchnogion y lofa MNS yn gwadu cyhuddiadau o ddynladdiad.

Roedd David Wyatt yn gweithio rhyw ddeg llath i ffwrdd o Garry Jenkins mewn amodau cyfyng, gydag uchder y to ond yn ddwy droedfedd a hanner mewn mannau.

'Fy nal yn erbyn wal'

Roedd dyn arall, Nigel Evans, ymhellach i ffwrdd, yn nes at yr wyneb.

Dywedodd Mr Wyatt wrth y llys: "Yn sydyn roedd sŵn mawr, fel injan jet - sŵn 'whoosh' aruthrol. Fe ddywedodd Garry a minnau 'rhed' ar yr un pryd."

Roedd Mr Wyatt yn ddagreuol wrth iddo ddisgrifio sut y gwnaeth neidio ar y belt cludo.

"Fe wnes i gropian a chropian. Fe edrychais y tu ôl i mi, doedd dim golwg o Garry, dim goleuni.

"Roeddwn yn gallu clywed y sŵn tu ôl i mi'n mynd yn uwch ac yn uwch. Wedyn am eiliad fe wnaeth fy nal yn erbyn y wal."

Disgrifiodd sut y llwyddodd i rowlio dros y belt cludo cyn symud rhyw 40 neu 50 llath i fyny'r prif ddrifft, cyn iddo orfod stopio am ei fod wedi llwyr ymlâdd.

Dywedodd fod y dŵr wedi stopio codi rhyw dair neu bedair llathen y tu ôl iddo.

"Tase fe wedi parhau i symud, mae'n debyg na fyddwn i yma," meddai wrth y llys.

Mae'r achos yn parhau.

Straeon perthnasol