Rhybudd Uwch Gynghrair Cymru am ffaglau mewn gemau

Flare
Image caption Mae Uwchgynghrair Cymru yn anfodlon oherwydd y defnydd o ffaglau

Ar ôl i gefnogwyr ddefnyddio ffaglau mewn gemau pêl-droed, mae Uwchgynghrair Cymru wedi ysgrifennu at y clybiau.

"Yn anffodus, mewn dwy gêm gafodd eu darlledu'n fyw o feysydd Uwch Gynghrair Cymru'n ddiweddar mae ffaglau wedi eu defnyddio gan gefnogwyr honedig," meddai llefarydd.

Mae ffaglau yn cael eu defnyddio yn eang mewn cynghreiriau pêl-droed Ewropeaidd, ond mae eu defnydd yn duedd gymharol newydd yn y DU.

Mae eu defnyddio, neu feddu ar ffaglau mewn meysydd pêl-droed yn anghyfreithlon, ac fe all arwain at waharddiadau neu ddedfryd carchar.

Dywedodd yr Uwchgynghrair fod defnyddio ffaglau yn "tanseilio" poblogrwydd y gynghrair.

"Mae'r rhain yn anghyfreithlon a pheryglus yn ogystal ậ mynd yn groes i reolau diogelwch ein meysydd," meddai llefarydd.

"Fel cynghrair a chlybiau rydym yn cyd-weithio'n galed er mwyn gwneud ein gemau'n atyniadol i deuluoedd mewn awyrgylch gyfeillgar a diogel.

"Ond mae'r digwyddiadau diweddar yma'n tanseilio'r gwaith da sydd eisoes wedi ei wneud i hyrwyddo poblogrwydd ein cynghrair."