Dadorchuddio darlun o'r canwr Victor Jara yng Nghaerdydd

Darlun o Victor Jara gan yr artist Otto Schade o Chile, gydag Andy Richards o undeb Unite
Image caption Darlun o Victor Jara gan yr artist Otto Schade o Chile, gydag Andy Richards o undeb Unite

Mae darlun o'r canwr gwerin Victor Jara, gafodd ei lofruddio yn Chile yn 1973 wedi i'r Cadfridog Augusto Pinochet ddod i rym, wedi cael ei ddadorchuddio ym mhencadlys undeb Unsain yng Nghaerdydd.

Roedd Jara yn aelod Blaid Gomiwnyddol Chile pan gipiodd Pinochet yr awenau drwy rym milwrol.

Cafodd y darlun ei roi i undeb Unsain gan ŵyl ym Machynlleth sydd yn dathlu gwaith y canwr o dde America.

Dywedodd Unsain fod hanes Jara yn ''taro tant'' yng Nghymru.

Dywedodd ysgrifennydd rhanbarthol yr undeb, Andy Richards: ''Mae stori Victor Jara yn cytseinio yng Nghymru ac mae'n rhan o'n ymwybyddiaeth ryngwladol.'

''Mae'n canu cytgord gyda'n ymgyrchu rhyngwladol, diwydianol a gwleidyddol, ac rydym yn credu ei bod yn stori sydd angen cael ei chadw yn fyw.''

Ychwanegodd: ''Mae stori Victor Jara wedi cael ei ysgrifennu ac mae wedi ei chanu amdani gan The Clash a gan Dafydd Iwan yma yng Nghymru. Mae'n taro tant gyda Chymru a gydag undebwyr llafur.''

Caneuon protest

Daeth Jara yn amlwg yn Chile yn ystod y 60au wrth iddo ysgrifennu caneuon protest am y rhai oedd yn rheoli ei wlad.

Roedd yn gefnogwr o'r Arlywydd Salvador Allende, ond fe gollodd Allende rym yn dilyn gwrthryfel milwrol ym mis Medi 1973.

Cafodd y canwr ei gipio o brifysgol ym mhrifddinas Chile, Santiago, a'i gludo i stadiwm chwaraeon oedd wedi ei addasu fel carchar a chanolfan arteithio dros dro. Cafodd Jara ei arteithio cyn cael ei saethu.

Gŵyl El Sueno Existe a phwyllgor 'Chile 40 Years On' oedd yn gyfrifol am roi'r darlun i Unsain. Mae'r ŵyl, sydd yn cael ei chynnal bob dwy flynedd, yn dathlu bywyd a gwaith Victor Jara.

Poblogaidd

Dywedodd Keith Jackson, un o drefnwyr yr ŵyl, fod Jara yn ganwr ac ysgrifennwr gwych: ''Roedd mor boblogaidd ac mae canwyr poblogaidd heddiw ac fe ddangosodd ei fod yn bosib bod yn rhan o fudiad gwleidyddol a chymdeithasol oedd yn bwysig i fywydau pobl ac nid fel y mwyafrif o'r hyn sydd i'w glywed mewn canu pop heddiw.''

Canodd Dafydd Iwan am Jara yn 'Cân Victor Jara', ac fe ganodd The Clash amdano ar eu halbwm 'Sandinista!' yn 1980.

Y llynedd fe wnaeth yr awdurdodau yn Chile arestio nifer o gyn-swyddogion y fyddin oedd wedi eu cyhuddo o chwarae rhan ym marwolaeth Jara.

Cafodd dros 3,000 o bobl eu lladd neu 'ddiflanu' yn ystod y cyfnod pan roedd y fyddin mewn grym yn Chile rhwng 1973 a 1990.