Cynghrair Cymru: Prestatyn yn goroesi

Prestatyn 0 - 1 Aberystwyth

Fe sgoriodd Luke Sherbon ddeng munud cyn y diwedd wrth i ffawd Prestatyn gael ei roi yn nwylo Penybont. Mae'r ffaith eu bod nhw wedi curo'r Hwlffordd yn golygu mai ond Afan Lido fydd yn disgyn o'r Uwch-gynghrair y flwyddyn yma. Y rheswm am hyn yw mai'r Hwlffordd oedd yr unig glwb o gynghrair y de i wneud cais am ddyrchafiad.

Bydd Aber yn falch o weld fod eu hamddiffynwr Peter Hoy, sy'n gorfod chwarae yn y gôl oherwydd anafiadau heb ildio, gan ei bod hi'n debygol mai fo fydd yn y gôl ar gyfer rownd derfynol y gwpan yr wythnos nesaf, yn erbyn TNS.

Lido Afan 1 - 8 Gap Cei Cona

Daeth tymor erchyll Lido Afan i ben wrth iddyn nhw gael crasfa go iawn gan Gei Cona. Fe sgoriodd Gary O'Toole dair i'r ymwelwyr. Greg Hurley, sy'n 39, sgoriodd i Lido yn ei gêm gyntaf yn y gynghrair ers wyth mlynedd.

Bangor 2 - 0 Rhyl

Fe lwyddodd Bangor i roi canlyniad yr wythnos ddiwethaf y tu ôl iddyn nhw, gan guro'r Rhyl yn braf yn Nantporth. Chris Jones a Les Davies gafodd y goliau.

Port Talbot 2-1 Bala Town

Y cyn Alarch Guillem Bauza a Rhys Griffiths gafodd y goliau i Bort Talbot, gyda Stephen Brown yn sgorio o'r smotyn i'r Bala.

Y Drenewydd 1 - 1 Airbus

Gêm gyfartal yn y Drenewydd, gyda Mike Pearson yn ei gwneud hi'n gyfartal ddau funud ar ôl i Zac Evans sgorio i'r tîm cartref.

Caerfyrddin G - G Y Seintiau Newydd

Cafodd y gêm ei gohirio oherwydd fod y problemau gyda cae yr Hen Aur yn parhau.