Tymor Wrecsam yn gorffen â gêm gyfartal

Johnny Hunt
Image caption Johnny Hunt yn sgorio cic o'r smotyn

Daeth tymor siomedig Wrecsam i ben gyda gêm gyfartal yn erbyn Forest Green.

Rovers aeth ar y blaen wedi chwarter awr wedi i James Norwood daro'r bel heibio Andy Coughlin.

Roedd Wrecsam yn siomedig yn ystod yr hanner cyntaf, gan fethu â dangos unrhyw arwyddion fod ganddyn nhw'n gallu i ennill y gêm

Ond fe wellodd pethau wedi'r egwyl, ac fe lwyddodd Johnny Hunt i'w gwneud hi'n gyfartal funud o'r diwedd gyda chic o'r smotyn.

Fe allan nhw fod wedi curo yn ystod yr amser ychwanegol - dim ond arbediad da gan golwr y tîm cartref wnaeth ei chadw hi'n 1-1.

Yn siarad wedi'r gêm, dywedodd rheolwr Wrecsam Kevin Wilkin: "Ro'n i'n teimlo ein bod ni wedi rheoli'r gêm o'r dechrau i'r diwedd, ac mi fyddai wedi bod yn ofnadwy petai ni heb gael o leiaf pwynt.

"Roeddwn i'n falch iawn o'n gweld ni'n brwydro tan y diwedd un, ac yn yr ail hanner dim ond ni oedd ynddi, a'r unig adeg oedden nhw'n edrych fel sgorio oedd pan yn gwrthymosod."

Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn gorffen y tymor yn 17eg yn y tabl, fydd yn cynrychioli siom fawr i'r cefnogwyr selog oedd yn gobeithio gweld eu tîm yn cael dyrchafiad.