Y Frenhines ar ymweliad â Chymru

Mae'r Frenhines a Dug Caeredin wedi dechrau ar ymweliad deuddydd â Sir Benfro, Bro Morgannwg a Sir Caerffili.
Cyrhaeddodd y cwpl Hwlffordd ar drên fore Mawrth.
Aeth y Frenhines i ymweld ag ysbyty i geffylau yn Robeston Wathen ger Arberth, gan gwrdd â sylfaenwyr a staff y ganolfan.
Aeth y Tywysog Philip i gwmni pacio tatws Puffin Produce yn Hwlffordd.
Daeth y ddau yn ôl at ei gilydd i ymweld â chwmni dŵr Prince's Gate.
Yn ddiweddarach bydd y cwpl brenhinol yn ymweld â Chapel yr Iard Ddociau Frenhinol yn Noc Penfro.
Yn y capel bydd y Frenhines yn agos canolfan dreftadaeth arbennig i nodi dau gan mlwyddiant tre Doc Penfro.
Ddydd Mercher bydd y cwpwl yn symud ymlaen i Ystrad Mynach a Llanilltud Fawr.
Dywedodd cadeirydd grŵp dau ganmlwyddiant Doc Penfro, Pam George: "Mae hyn yn hwb anferthol i Ddoc Penfro yn y flwyddyn arbennig yma."