Ar y bocs

Beth am gychwyn tymor newydd yn y Cynulliad gyda chwestiwn cwis bach? Dyma fe i chi. Yn etholiad cyffredinol 1931 ym mha etholaeth y derbyniodd 'Plaid Newydd' Syr Oswald Mosley ei chanran uchaf o'r bleidlais?

Yn yr etholaeth lle safodd Mosley ei hun, Stoke, fe dderbyniodd y blaid 24.1% o'r bleidlais ond nid dyna oedd canlyniad gorau'r blaid. Fe ddaeth hwnnw ym Merthyr Tudful lle enillodd ymgeisydd y blaid, Sellick Davies, 10,834 pleidlais - 31.6% o gyfanswm y pleidleisiau.

Doedd y 'Blaid Newydd' ddim yn agored ffasgaidd fel pleidiau mwy diweddar Mosley. Yn wir enillodd peth cefnogaeth gan hoelion wyth yr ILP. Serch hynny, mae'r ffaith mai ym Merthyr y cafodd hi ei llwyddiant mwyaf yn fodd i'n hatgoffa taw nonsens yw credu na all pleidiau'r dde eithaf apelio at etholwyr Cymru.

Mae 'na ddwy blaid o'r dde eithafol yn sefyll yng Nghymru yn yr etholiadau Ewropeaidd. Mae un ohonyn nhw'n gyfarwydd. Y 'British National Party' yw honno.

Mae'r llall yn blaid o'r enw 'Britain First' - un o nifer o bleidiau bach sydd wedi ymddangos yn sgil rhaniadau diweddar y BNP.

Does ond angen gwybod ei bod hi'n disgrifio ei hun fel "a patriotic political party and street defence organisation" er mwyn synhwyro pa fath o blaid yw 'Britain First'.

I'r graddau y mae hi wedi denu sylw o gwbwl mae hynny wedi digwydd o ganlyniad i benderfyniad rhyfeddol y Comisiwn Etholiadol i ganiatáu i'r blaid ddefnyddio'r slogan "Remember Lee Rigby" ar y papur pleidleisio yng Nghymru. Mae'r Comisiwn wedi ymddiheuro am y camsyniad - ond go brin ein bod wedi clywed diwedd y stori fach yna.

Ond mae 'na rywbeth arall sydd braidd yn rhyfedd ynghylch 'Britain First'.

Cyfeiriadau yn Lloegr sydd gan bob un o'i hymgeiswyr ond dim ond yng Nghymru a'r Alban y mae'r blaid yn sefyll. Pam felly?

Mae'r ateb i'w canfod yn y rheolau ynghylch darllediadau etholiadol. Er mwyn sicrhau darllediad etholiadol yn Lloegr mae'n rhaid i blaid newydd, heb record etholiadol, enwebu rhestri o ymgeiswyr ym mhob un o'r naw rhanbarth etholiadol Seisnig. Un rhestr yr un sydd ei hangen er mwyn sicrhau darllediadau yng Nghymru a'r Alban.

Yn achos 'Britain First' felly mae plaid sydd, mae'n ymddangos, heb unrhyw fath o drefniadaeth yn Nghymru na'r Alban, yn gallu sicrhau amser darlledu gwerthfawr trwy dalu dwy ernes o £5,000. Bargen!

Nid fi sydd yn amau hyn holl. Mewn fideo ar wefan y blaid dywed ei harweinydd Paul Golding, sy'n ymgeisydd yng Nghymru, hyn.

"If we were going to stand in England, to achieve a broadcast on prime time television it would cost us in the region of forty to fifty thousand pounds. That at the moment is outside of our capabilities... To stand in Wales costs us five thousand pounds. That guarantees us a broadcast on prime time television"

Dyna ni felly.

Yn sicr mae 'Britain First' wedi ymddwyn o fewn y rheolau - er nid efallai o fewn ysbryd y rheolau.

A fydd yr un rheolau yn bodoli y tro nesaf y cynhelir etholiadau Ewrop? Fe gawn weld.

Gellir gweld holl ymgeiswyr Cymru yn fan hyn.