Marchog Cloff

Hyd y gwn i, dim ond un aelod o fy nheulu sydd wedi sefyll mewn etholiad seneddol. Wncwl Evan oedd hwnnw ac fe safodd i'r Rhyddfrydwyr yn Aberdâr yn 1929.

Roedd hynny'n gam rhyfedd braidd ar ei ran gan ei fod yn aelod Llafur o gyngor y Rhondda ar y pryd. Efallai ei fod yn credu y byddai ei statws fel un o ddynion mawr Annibynwyr Morgannwg a'i waith fel atalbwyswr (checkweigher) i Ffederasiwn y Glowyr yn apelio at etholwyr Cwm Cynon.

Nid felly y bu pethau! Fe ddaeth yn ail gydag ychydig dros ddeng mil o bleidleisiau. O leiaf roedd ei drwyn ar y blaen i'r Ceidwadwr!

Roedd Wncwl Evan yn aelod o Soar, Clydach Vale ac yn ddiacon yno am ddegawdau. Fe fyddai wedi bod yn ddeunaw oed adeg Nadolig 1904, pan oedd pentref Cwm Clydach yn ganolbwynt i ddiwygiad 1904.

Mae'r blogiwr Welldigger wedi dod o hyd i'r disgrifiad yma o'r diwygiad yng Nghwm Clydach o bapur yr "Evening Express".

Prayer after prayer now followed in quick succession, and hymn after hymn was sung fervently, the favourite being the hymn tune 'Ebenezer,' to which tune quite a number of hymns were sung, the principle being 'Marchog Iesu yn llwynianus,' 'Dyma gariad fel y moroedd,' and 'Unwaith eto mi ddyrchafaf.' One person prayed that all Wales from 'Caergybi to Caerdydd' should be blessed by the Spirit. Another person got up and said that he was proud of his position as a recruiting sergeant of the Royal Engineers, but that he was prouder still of his position as recruiting sergeant of Christ's army.

Ychydig dros ganrif yn ddiweddarach yn 2011 roedd Cwm Clydach yn un o ddwsin o wardiau yng Nghymru a Lloegr lle wnaeth mwyafrif y trigolion ticio'r blwch "dim crefydd" ar ei ffurflenni cyfrifiad. Mae'r wardiau hynny i gyd naill ai yn ninas Brighton a Hove neu yn Rhondda Cynon Taf.

Nid bod gweddill Cymru mor wahanol â hynny . O'r saithdeg pump ward gyda'r canrannau uchaf o bobol ddigrefydd yng Nghymru a Lloegr roedd pedwardeg pump yr ochr yma i Glawdd Offa.

Mae'n werth cofio'r ystadegau yna wrth ystyried honiad diweddar David Cameron ein bod yn byw mewn "gwlad Gristnogol" a haeriad Rowan Williams ein bod yn gymdeithas ôl-Gristnogol.

Cyfeirio at Brydain yn ei chyfanrwydd roedd y Prif Weinidog a'r cyn Archesgob ond yn achos Cymru go brin y byddai hyd yn oed y Cristion mwyaf pybyr yn honni ein bod ni'n wlad Gristnogol bellach. Yn wir, fe fyddai hyd yn oed 'ôl-Gristnogol' yn gwthio'r gwir yng ngolwg llawer!

Wrth gwrs nid at drigolion Cwm Clydach na thrwch y boblogaeth yr oedd geiriau Cameron wedi eu hanelu ond at ran o bleidlais graidd y Ceidwadwyr sydd wedi eu gelyniaethu gan ryddfrydiaeth gymdeithasol ei lywodraeth.

Amser a ddengys a fydd y dacteg yn effeithiol ond ar hyn o bryd does 'na fawr o risg wleidyddol i Cameron. Yn ol arolygon ychydig iawn o bobol sy'n wrth-grefyddol mae 'di-hid' yn well ddisgrifiad o agweddau y mwyafrif o'r rheiny sy'n ystyried eu hun yn anffyddwyr.

Os am brawf o hynny mae arolwg diweddar gan YouGov yn ddifyr. Pan ofynnwyd i bobol pa bethau oedd yn nodweddiadol o Brydeindod fe ddaeth yr Eglwys yn y bedwerydd safle ar bymtheg - ychydig yn is na bysiau deulawr a bocsys ffôn coch!