Carafan wedi ei dinistrio mewn tân yng Ngwynedd

Mae carafan sefydlog wedi ei dinistrio mewn tân wrth ymyl Porthmadog, Gwynedd.

Cafodd gweithwyr tân eu galw i Brenteg am 4.13 y bore.

Defnyddiwyd peipen ddŵr i ddiffodd y tân.

Doedd neb yn y garafan ar y pryd, ond mae ymchwiliad wedi dechrau i achos y tân.