Cymraeg ail iaith: llythyr yn galw am weithredu ar frys

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Owain Evans

Mae'r Archdderwydd Christine James, y Prifardd Mererid Hopwood a'r hyfforddwr rygbi Robin McBryde ymhlith unigolion sydd wedi llofnodi llythyr yn galw ar Brif Weinidog Cymru i weithredu "ar frys" i wella addysg Gymraeg ail iaith.

Mae'r llythyr, sydd wedi ei arwyddo gan 18 o bobl sy'n gweithio yn y byd addysg neu yn bobl cyhoeddus, yn nodi eu bod nhw wedi siomi am oedi ynglŷn â diwygio'r ffordd y mae Cymraeg yn cael ei ddysgu mewn ysgolion am flwyddyn arall.

Daeth adroddiad y llynedd i'r casgliad bod angen newid cyfeiriad ar frys i atal dirywiad y Gymraeg fel ail iaith.

Yr Athro Sioned Davies oedd cadeirydd y grŵp ac mi oedd y ddogfen yn nodi bod profiad dysgu'r iaith yn un diflas iawn i nifer o ddisgyblion, ac nad oedd y pwnc yn cael ei weld fel un perthnasol.

Dim oedi

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn y broses o edrych ar y cwricwlwm dysgu.

Ond yn ôl y llythyr, rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu fydd yn cael eu hadolygu i ddechrau, cyn materion eraill fel addysg Gymraeg.

Mae'r llythyr, gafodd ei rhyddhau gan Gymdeithas yr Iaith, yn dweud:

"Yr unig ffordd y caiff argymhellion yr Athro Sioned Davies eu hystyried ar frys yw trwy gynnwys ystyriaeth o 'Cymraeg ail Iaith' yn ystod Cam 1.

"Datganwn ein siom yn eich penderfyniad i adael ystyriaeth o'r maes pwysig hwn tan Cam 2 o'r adolygiad cwricwlwm.

"Galwn arnoch i ailystyried y penderfyniad hwn ac i drin y maes fel mater o flaenoriaeth tan Cam 1 fel bod datblygu 'sgiliau llythrennedd a chyfathrebu' yn y ddwy iaith i holl ddisgyblion Cymru er mwyn sicrhau nad oes neb tan anfantais mewn gwlad ddwyieithog fodern."

Mae'r llythyr yn nodi y dylai holl ddisgyblion Cymru fedru meistroli'r Gymraeg.

Dyma ydy un o'r 6 peth y mae'r mudiad pwyso yn galw arno fel newid polisi. Cafodd y '6 pheth' eu cyhoeddi mewn ymateb i ffigyrau diweddaf y cyfrifiad oedd yn dangos bod cwymp yn nifer y bobl sydd yn siarad Cymraeg.

Wrth ymateb mae Llywodraeth Cymru wedi dweud: "Rydym yn cydnabod bod angen i'r system bresennol ar gyfer addysgu a dysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg newid a byddwn yn ymateb i argymhellion Un Iaith i bawb yn yr wythnosau nesaf. "

"Rydym eisiau cryfhau'r iaith Gymraeg a rhoi cyfleoedd digonol i'r rhan fwyaf o ddisgyblion ddatblygu sgiliau Cymraeg y gallant eu defnyddio y tu allan i'r dosbarth.

"Fodd bynnag, tra bo adolygiad ehangach o'r cwricwlwm ysgol a'r trefniadau asesu ar y gweill mae'n gwneud synnwyr i ni ystyried argymhellion Un iaith i bawb sy'n ymwneud â'r cwricwlwm o fewn yr adolygiad hwnnw. "

Straeon perthnasol