Juan Cala am drafod cyhuddiad camymddwyn

Juan Cala Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd Juan Cala ei yrru o'r cae yn erbyn Sunderland am drosedd ar Connor Wickham

Mae amddiffynnwr Caerdydd Juan Cala wedi gwneud cais am wrandawiad personol gyda'r Gymdeithas Bêl-droed wedi iddo gael ei gyhuddo o gamymddwyn ar y cae.

Cafodd ei gyhuddo ar ôl digwyddiad honedig yn y twnnel ar ôl i Gaerdydd golli o 4-0 yn erbyn Sunderland.

Roedd yr amddiffynnwr, 24, eisoes wedi ei derbyn cerdyn coch a'i yrru o'r cae am drosedd ar ymosodwr y Black Cats, Connor Wickham.

Dywedodd Clwb Pêl-droed Caerdydd: "Mae Juan Cala wedi gwneud cais am wrandawiad personol... bydd y dyddiad yn cael ei gadarnhau."

Cafodd Cala gerdyn coch gan y dyfarnwr Phil Dowd am dynnu Wickham yn ôl wrth i'r ymosodwr redeg at y gôl.

Yr honiad yw bod Cala yna wedi bod yn rhan o ddigwyddiad wrth iddo fynd i lawr y twnnel tuag at yr ystafell newid yn y Stadium of Light.

Bydd Cala yn sicr o fethu gêm y penwythnos yn erbyn Newcastle am dderbyn y cerdyn coch, ond os bydd tystiolaeth i gefnogi'r honiad pellach gall yr amddiffynnwr hefyd fethu gêm olaf y tymor, gartref yn erbyn Chelsea.

Mae Caerdydd yn olaf yn yr Uwchgynghrair gyda dwy gêm yn weddill yn y tymor.

Fe all dyfodol Caerdydd yn y Bencampwriaeth gael ei sicrhau ddydd Sadwrn os y bydd canlyniadau timau eraill yn mynd yn eu herbyn.

Straeon perthnasol