Adroddiad Owain Evans
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cymdeithas yn galw am ddiwedd i Gymraeg 'ail iaith'

3 Mai 2014 Diweddarwyd 10:56 BST

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod rhaid gweithredu ar frys i sicrhau bod holl blant ysgol Cymru yn meistroli'r Gymraeg.

Mewn llythyr sydd wedi ei arwyddo gan nifer o Gymry amlwg at y Prif Weinidog, Carwyn Jones a'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, maen nhw'n galw am weld diwedd i'r Gymraeg fel pwnc "ail iaith".

Mae'r llywodraeth yn cydnabod bod angen newid i'r ffordd mae'r pwnc yn cael ei ddysgu.

Adroddiad Owain Evans.