Caerdydd i lawr i'r Bencampwriaeth

Wilfried Zaha Image copyright Getty Images

Ni fydd Caerdydd yn chwarae yn yr Uwchgynghrair y tymor nesaf, wedi colled o 3-0 yn erbyn Newcastle brynhawn Sadwrn.

Roedd yr Adar Gleision angen ennill pob un o'u gemau am weddill y tymor, a gobeithio bod canlyniadau eraill yn eu helpu, i gael unrhyw obaith o aros yn yr Uwchgynghrair am ail dymor.

Ond roedd goliau gan Shola Ameobi yn yr hanner cyntaf a dwy gan Loic Remy a Steven Taylor yn y munudau olaf yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Newcastle, a chadarnhau lle Caerdydd yn y Bencampwriaeth.

Gydag un gêm yn weddill yn y tymor, mae Caerdydd yn y safle olaf yn yr Uwchgynghrair.

Amddiffyn gwael

Aeth Newcastle, oedd wedi colli eu chwe gêm ddiwethaf, ar y blaen drwy gôl Shola Ameobi wedi 18 munud yn St James' Park.

Llwyddodd yr ymosodwr i fanteisio ar amddiffyn gwael Caerdydd i benio i'r rhwyd heibio David Marshall.

Roedd cyfle gwych i Gaerdydd ddod yn gyfartal wedi i Wilfried Zaha ddawnsio heibio amddiffynwyr Newcastle, ond tarodd ei ergyd yn erbyn y postyn.

Zaha oedd gobaith gorau Caerdydd o sgorio, ond roedd i weld yn blino erbyn yr ail hanner.

Er i Kenwyne Jones ddod a mwy o nerth i'r cae, nid oedd yn gallu dod o hyd i gôl hollbwysig.

Erbyn hynny, roedd Sunderland ar y blaen o 1-0 yn erbyn Manchester United, canlyniad oedd yn cadarnhau na fyddai Caerdydd yn goroesi yn yr Uwchgynghrair.

Daeth goliau gan Remy a Taylor yn hwyr yn y gêm i sicrhau'r fuddugoliaeth i Newcastle.

'Swydd anodd'

Ar ôl y gêm, dywedodd rheolwr Caerdydd, Ole Gunnar Solskjaer ei fod yn credu y dylai ei dim bod wedi ennill y gêm.

"O'n i'n gwybod y byddai hi'n swydd anodd yma, ond rydyn ni wedi dal ati, wedi bod yn anlwcus ar adegau, wedi gwneud yn dda ar adegau.

"Heddiw rydyn ni wedi chwarae yn dda iawn o'n i'n meddwl, wedi creu nifer fawr o gyfleoedd, ond wnaethon ni ddim eu cymryd nhw."

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn bwriadu aros yn y swydd, dywedodd:

"Yn sicr. Rydyn ni wedi cael pedwar tymor ar frig y Bencampwriaeth, rŵan rydyn ni wedi cymryd cam yn ôl ond mae angen dangos cymeriad a bownsio yn ôl."

Straeon perthnasol