£180,000 yn ddigon o gefnogaeth i fwyd a diod Cymru?

Gwyl Fwyd Y Fenni
Image caption Bydd gwyliau bwyd yn derbyn uchafswm o £10,000 yr un fel rhan o'r cynllun

Bydd gwyliau bwyd yng Nghymru yn derbyn dros £180,000 fel rhan o ymgyrch i "ddangos y gorau" o fwyd a diod Cymru.

Llywodraeth Cymru sydd wedi rhoi'r arian, wrth iddyn nhw geisio "cryfhau enw da Cymru fel cynhyrchydd o fwyd o safon uchel".

Mae trefnydd un ŵyl wedi croesawu'r arian, ond mae'n dweud bod angen mwy o gefnogaeth eto i wyliau bwyd.

Bydd 28 o wyliau bwyd, yn cynnwys Gŵyl Wystrys y Mwmbwls, y Ffair Fwyd a Diod Nadolig yn y Fenni a Gŵyl Fwyd Llangollen yn derbyn uchafswm o £10,000 fel rhan o'r cynllun.

Gŵyl Fwyd yr Wyddgrug

Un arall yw Gŵyl Fwyd yr Wyddgrug, sy'n cael ei gynnal ym mis Medi.

Mae cadeirydd yr ŵyl, John Les Tomos yn croesawu'r arian gan y llywodraeth, ond mae'n dweud bod "angen hyblygrwydd yn y system".

Dywedodd mai ond £9,000 fydd yr ŵyl yn ei dderbyn eleni gan fod y llywodraeth wedi cwtogi ar eu harian.

Mae hynny oherwydd bod nifer o'r cwmnïau sy'n dod i'r ŵyl yn dod o Loegr, ac er bod llawer o'r staff yn Gymry, mae'r ffaith yna yn golygu bod yr ŵyl yn colli peth o'r arian.

Er hynny, dywedodd Mr Tomos y bydd yr arian yn helpu wrth drefnu.

"Mae'n rhaid cyfro costau, sy'n rhywbeth rhwng £80,000 a £90,000," meddai.

"Does neb sy'n trefnu yn cael dima' goch, na dim costau... Mae pawb yn wirfoddol.

"Os liciwch chi mae'r arian gan y llywodraeth yn cael ei wario ar bethau lle does dim arian yn dod i mewn."

'Dangos y cynnyrch gorau'

Dywedodd Mr Tomos bod trefnwyr yr ŵyl wedi cynnal cynllun bwydlen leol yn yr ardal, gyda dros 20 o fwytai a thafarndai.

Roedd y bwytai yn cytuno i ddefnyddio bwydlen o gynnyrch lleol am fis, gyda'r bwriad o hybu cynhyrchwyr lleol drwy gydol y flwyddyn.

Roedd y bwytai hefyd yn elwa o gyhoeddusrwydd y cynllun a'r ŵyl fwyd.

Ychwanegodd Mr Tomos: "Roedd y cynllun wedi gweithio, ond mi wnaeth gostio tua £5,000.

"Felly mae arian y llywodraeth yn cael ei ddefnyddio ar hynny, rhywbeth na fyddwn ni'n gallu ei wneud fel arall."

Dywedodd y llywodraeth mai pwrpas yr arian yw "hybu proffil y bwyd a diod o safon uchel sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru a datblygu'r diwylliant bwyd sy'n tyfu yn y wlad".

Ychwanegodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, Alun Davies: "Mae gwyliau bwyd yn ffordd wych o ddangos y cynnyrch gorau sydd gan Gymru i'w gynnig ac fe all helpu cynhyrchwyr bychain i gynyddu eu cwsmeriaid a chryfhau eu busnesau.

"Mae gwyliau bwyd hefyd yn denu miloedd o bobl i ganol ein trefi a phentrefi, gan roi hwb i fusnesau lleol a'r economi wledig."

Straeon perthnasol