Sioe Nefyn yn dechrau tymor y sioeau amaethyddol

Sioe Nefyn Image copyright Sioe Nefyn
Image caption Mae'r sioe yn gyfle i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o gystadleuwyr yn ôl y trefnwyr

Bydd tymor y sioeau amaethyddol yn dechrau yn swyddogol yn ddiweddarach, pan fydd Sioe Nefyn yn agor ei giatiau.

Bydd y cystadlu yn sicr o fod yn frwd ar y maes, lle bydd anifeiliaid, crefft a choginio yn cael eu beirniadu.

Dyma'r 118 flwyddyn i'r sioe, sy'n cael ei chynnal yn Botacho Wyn, Nefyn.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Sioe Nefyn, Eirian Lloyd Hughes, bod paratoadau wedi bod yn llwyddiannus.

"Mae'n edrych yn dda iawn, mae 'na lot fawr o stondinau, mi ydan ni'n gobeithio am gael y tywydd!" meddai.

"Mi ydan ni'n edrych ar gael tua 3500 i 4000 drwy'r giatiau yn ddibynnol ar y tywydd - dydi pobl ddim yn dechre' allan yn y glaw."

Image copyright Sioe Nefyn
Image caption Mae'r trefnwyr yn gobeithio am ychydig fwy o heulwen yn y sioe eleni

Roedd y cystadlu ar y maes yn dechrau am tua 9:00yb, a dywedodd Ms Hughes bod pwyslais ar gystadlaethau'r ifanc yn y sioe eleni.

"'De ni'n trio annog pobl ifanc i gystadlu felly mae 'na adrannau i'r ifanc mewn coginio a gwaith llaw. Ac wedyn mae 'na'r young handlers.

"Rydyn ni'n trio rhoi'r spotlight ar y bobl ifanc, achos mae'n bwysig i ni gael arddangoswyr at y dyfodol."

Ac yn ôl Ms Hughes, does dim diffyg cystadleuwyr.

"Mae 'na lot o gystadleuwyr, mae'r pebyll yn llawn yma yn yr adran gwaith llaw a choginio, ac mae lot o stondinwyr crefft.

"Dyma gychwyn ar y tymor sioeau, mae'n agor y drws i'r sioeau eraill ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weddill yr haf."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.