Galw am roi statws ieithyddol i ardaloedd

Dyfodol
Image caption Byddai'r ardaloedd yn cael eu hadolygu bob pum mlynedd yn ôl cynlluniau'r mudiad iaith

Mae mudiad iaith yn galw am ddynodi bob ardal yng Nghymru yn ôl ei sensitifrwydd ieithyddol.

Mewn dogfen ar gyfer Llywodraeth Cymru mae Dyfodol i'r Iaith yn dweud y byddai hyn yn newid y ffordd mae'r Gymraeg yn cael ei hystyried yn y maes cynllunio.

Yn y gorffennol mae'r mudiad iaith wedi dweud bod cynghorau ddim yn rhoi digon o ystyriaeth i'r iaith wrth fynd ati i adeiladu tai.

Mae'r mudiad yn dweud bod angen un ai creu corff newydd i gael y cyfrifoldeb yma neu fod angen rhoi mwy o gyfrifoldeb ac arian i gomisiynydd y Gymraeg i wneud y gwaith.

Lles yr iaith

Yn ôl cynllun Dyfodol i'r Iaith byddai yn rhaid edrych ar bob un ward etholaethol a byddai sawl ffactor yn cael eu hystyried wrth roi'r statws gan gynnwys faint sydd yn siarad y Gymraeg yn yr ardal honno. Byddai hyn yn cael ei adolygu bob pum mlynedd.

Mae'r mudiad iaith yn dweud eu bod wedi creu'r ddogfen ar ôl i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones ofyn am syniadau ynglŷn â sut y dylai'r Gymraeg gael ei hystyried yn ymarferol yn y maes cynllunio.

Dywedodd Llywydd Dyfodol Bethan Jones Parry: "Mae'n hanfodol bod y Gymraeg yn cael ei chynnwys ar wyneb y Bil Cynllunio arfaethedig a'r cam nesaf yw llunio canllaw ymarferol ar gyfer awdurdodau cynllunio a datblygwyr.

"Pan fo dynodiad o Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig mewn unrhyw ardal mae'n hawdd i ddatblygwyr a chynllunwyr ddeall bod angen ystyriaeth arbennig i'r amgylchedd. O greu dynodiad o Ardal o Sensitifrwydd Ieithyddol bydd yr un peth yn wir o ran ystyried lles y Gymraeg."

Mae'r mudiadau iaith wedi bod yn feirniadol o'r nodyn cynllunio Tan 20. Cafodd hwn ei newid ym mis Hydref y llynedd.

Yn ôl y Llywodraeth mae'r nodyn newydd yn golygu bod yn rhaid i gynghorau cynllunio lleol sydd wedi nodi bod yr iaith yn bwysig yn lleol ystyried y Gymraeg fel rhan o'u Cynlluniau Datblygu Lleol yn y dyfodol. Ond mae'r mudiadau iaith wedi dweud bod yna wendidau ynddo ac nad yw'n ddigon cryf.

Straeon perthnasol