Haint yn taro wardiau Ysbyty Maelor yn Wrecsam

Ysbyty Maelor Wrecsam
Image caption Mae cleifion ar nifer o wardiau yn yr ysbyty yn dioddef o'r dolur rhydd a chwydu.

Mae wardiau yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cael eu taro gan haint sy'n golygu bod cleifion yn dioddef o'r dolur rhydd a chwydu.

Mae dwy ward ar gau yn gyfangwbl, un ynghau yn rhannol ac un yn y broses o gael ei hail-agor.

Mae'r ysbyty'n credu mai firws sydd wedi achosi'r anhwylder.

Dechreuodd achosion ymddangos yn uned gofal y galon yr wythnos ddiwethaf.

Dros y penwythnos dechreuodd cleifion mewn nifer o wardiau eraill ddangos symptomau tebyg a bu raid i'r ysbyty gyfyngu derbyniadau.

Meddai llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae natur yr achosion yn awgrymu eu bod yn cael eu hachosi gan firws sydd ar led yn y gymuned ac wedi dod i'r ysbyty yn ddiarwybod.

"Hyd yn hyn, nid yw'r profion wedi dangos tystiolaeth o'r norofirws."

"Mae'r ysbyty felly yn gofyn i ymwelwyr helpu i gadw heintiau allan o'r ysbyty a diogelu eu hunain a'n cleifion."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.