Cwmnïau opera'n dod at ei gilydd ar-lein

Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru Image copyright Roger Donovan
Image caption La Traviata oedd cynhyrchiad mwyaf diweddar Opera Cenedlaethol Cymru

Mae saith o gwmnïau opera'r DU wedi ymuno â'i gilydd i greu digwyddiad ar-lein unigryw sydd yn cynnig golwg ar sut mae opera yn cael ei greu a'i pherfformio mewn theatrau ar draws y wlad.

Daeth y cwmnïau - English National Opera, English Touring Opera, Northern Ireland Opera, Opera North, The Royal Opera, Scottish Opera ac Opera Cenedlaethol Cymru - at ei gilydd ar ddydd Sadwrn 10 Mai 2014 i ddathlu Diwrnod Opera Ewropeaidd.

Cafodd y digwyddiad, 'Inside Opera', ei gyflwyno ar wefan YouTube gan roi cyfle i'r gwyliwr brofi opera ar draws y DU a'u hannog i ddarganfod mwy am weithgareddau opera sydd yn lleol iddynt.

Yn ystod y digwyddiad pedair awr ar-lein roedd cyfweliadau byw gyda chantorion a chyfarwyddwyr, cyfle i glywed gan berfformwyr yn union cyn iddynt fynd ar y llwyfan ac i gael gwybod sut bydd canwr yn paratoi ar gyfer rôl newydd.

Fel rhan o gyfraniad Opera Cenedlaethol Cymru roedd cyfle i weld digwyddiad sy'n cael ei gynnal ar strydoedd tref Wrecsam, 'Silent State'.

Roedd y cynhyrchiad, gafodd ei ddisgrifio fel 'gêm theatr symudol', yn ffurfio diweddglo i brosiect tair blynedd mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi ei gynnal yn Wrecsam.

Sail y cynhyrchiad oedd bod cerddoriaeth wedi'i wahardd yn nhref Wrecsam a phob man yn dawel.

Cyn y digwyddiad, dywedodd Ruth Evans, Cynhyrchydd Ieuenctid a Chymuned Opera Cenedlaethol Cymru bod y cwmni am greu ffordd ryngweithiol o geisio annog pobl i ymddiddori mewn opera.

Image copyright Jeni Clegg
Image caption Mae prosiect Opera Cenedlaethol Cymru yn Wrecsam yn dod i ben ar ôl tair blynedd

"Roedden ni am geisio gwneud rhywbeth gwahanol, felly fe wnaethon ni benderfynu cynnal math o gêm i'w chwarae ar strydoedd Wrecsam," meddai.

"Mae'r Wladwriaeth wedi gwahardd cerddoriaeth a rydym yn annog aelodau o'r cyhoedd i ymuno gyda'r Gwrthsafiad.

"Bydd chwech actor a dau ganwr opera proffesiynol yn ran o'r cynhyrchiad sydd wedi ei anelu at bobl rhwng 14 a 35 mlwydd oed, er y gall unryw un ymuno â ni."

Fel rhan o'r digwyddiad ar-lein cafodd pum munud o 'Silent State' yn cael ei ddarlledu'n fyw.

Yn ogystal roedd fideo yn dangos sut y cafodd cynhyrchiad diweddar o La Traviata gan Opera Cenedlaethol Cymru ei lwyfannu ei ddangos.

Dywedodd Ms Evans ei bod yn falch iawn bod cynhyrchiad sydd yn digwydd yn Wrecsam yn cael ei ddangos fel rhan o'r darllediad ar-lein.

"Mae'n rywbeth gwych i ogledd Cymru," meddai. "Dwi wedi mwynhau gweithio yn Wrecsam yn fawr iawn a wedi cwrdd â llawer o bobl grêt.

"Bydd ein partneriaid yn ardal Wrecsam yn parhau gyda'r gwaith wnaethon ni ddechrau a bydd grwpiau megis Côr Caia Choir, a ddechreuwyd ar stâd Caia yn Wrecsam, yn parhau i gwrdd."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.