Gwahardd athro am smyglo cyffuriau

Edward Bollom Image copyright Wales News Service
Image caption Mae Edward Bollom wedi ei wahardd rhag dysgu wedi iddo geisio smyglo cyffuriau

Mae athro celf gafodd ei garcharu am smyglo cyffuriau wedi cael ei wahardd rhag dysgu.

Cafodd Edward Bollom, 32 o Abertawe, ei garcharu am 18 mis am gludo cyffuriau yn cynnwys LSD a chanabis wrth iddo deithio i ynys Guernsey ar wyliau.

Mewn tribiwnlys Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yng Nghaerdydd, dywedodd na ddylai gael ei wahardd o'r dosbarth oherwydd bod deddfau cyffuriau Guernsey yn rhy llym.

Cafodd Bollom ei wahardd ac ni fydd yn cael gwneud cais i ddysgu am ddwy flynedd.

Gwerth £2,500

Cafodd ei stopio gan staff Asiantaeth Ffinau Guernsey wrth deithio ar fferi o Poole yn Dorset gyda chanabis, LSD a thabledi tebyg i ecstasi yn ei feddiant.

Cyfaddefodd smyglo cyffuriau Dosbarth A a B, oedd a gwerth o £2,500 yn ôl yr Heddlu.

Yn y gwrandawiad, dywedodd Bollom bod cael ei ddal wedi "achub ei fywyd", a mynnodd y dylai gael parhau i ddysgu.

Dywedodd: "Dydw i ddim yma i ddadlau'r ffeithiau, rwy'n cyfaddef i mi gyflawni'r troseddau.

"Rwy'n gobeithio y gallaf barhau i ysbrydoli creadigrwydd mewn plant ac yr wyf yn ddyn gonest ac ymroddedig sydd wedi gwneud rhai dewisiadau anghywir.

"Ni fuaswn yn euog yng Nghymru a Lloegr am y symiau o gyffuriau oedd yn fy nghar."

Dywedodd Cadeirydd y tribiwnlys, Tracy Jones: "Mae hwn yn achos trist ond mae enw da'r alwedigaeth yn fwy pwysig na'r sefyllfa unrhyw un person.

"Mae'r troseddau hyn yn arbennig o ddifrifol ac mae ymddygiad a ddangoswyd yn annerbyniol."

Rhoddwyd gorchymyn gwahardd iddo ond bydd yn gallu gwneud cais i ddysgu mewn dwy flynedd.

Straeon perthnasol