Hanes clociau tref Wrecsam

T Heywood clock face
Image caption Thomas Heywood o Wrecsam wnaeth wneud y cloc hwn yng nghanol y 19eg ganrif

Mae arddangosfa newydd wedi agor sydd yn olrhain hanes Wrecsam fel un o'r prif leoliadau yng Nghymru ar gyfer gwneud clociau.

O ddechrau'r 18fed ganrif mi wnaeth sawl siop agor yn y dref oedd yn gwneud clociau gan gynnwys clociau taid.

Y gred ydy bod y diwydiant wedi dod yn boblogaidd am fod yna lawer o fetelau a deunyddiau eraill o gwmpas yr ardal. Mae'r arddangosfa yn Amgueddfa Wrecsam yn son am bobl blaenllaw fel Thomas Hampson a'i dri mab wnaeth agor gweithdy ar y stryd fawr rhwng 1728 a 1748. Ond mae hefyd yn son am yr adeg pan y dechreuodd fusnesau ddioddef wrth i glociau rhatach ddechrau cael eu gwerthu.

Roedd gwneuthurwyr clociau Wrecsam yn canolbwyntio ar y ffordd yr oedd y clociau yn edrych. Ymhen amser roedd modd i wyneb cloc ddweud yr eiliadau a'r dyddiau yn ogystal â'r munudau a'r oriau ac mi oedd modd clywed y clociau yn canu yn fwy aml.

Ers i'r amgueddfa agor mae pobl sydd yn gweithio yno wedi bod yn casglu clociau gyda chas hir gan gynnwys rhai wedi eu gwneud gan Thomas Hampson a Humphrey Maysmore. Fo oedd un o gystadleuwyr mawr Mr Hampson ac mi symudodd o Lundain i Town Hill, Wrecsam i wneud eu clociau.

Image caption Y cloc ar y chwith yw'r un hynaf yn y casgliad a cafodd ei wneud gan deulu Hampson tua 1760

Hen gloc ffatri

Dywedodd un o weithwyr yr amgueddfa John Gammond: "Wrecsam oedd y dref fwyaf yng Nghymru tan y 18fed ganrif. Mi oedd o'r lle perffaith er mwyn gwneud clociau gyda hen draddodiad mewn gwaith metal..."

"Mi oedd y crefftwyr efo'r sgiliau metal a'r wybodaeth am fathemateg a gwyddoniaeth sydd angen er mwyn medru creu clociau."

Yn ol Mr Gammond mi oedd hi yn hawdd cael gafael ar y deunyddiau crai i wneud y clociau. "Mi oedd Wrecsam ei hun yn dref farchnad fywiog, cartref i'r bonheddwyr llwyddiannus ac yn le lle y byddai dynion busnes ar draws gogledd Cymru yn ymweld ag o yn gyson."

"Dyma'r math o bobl oedd eisiau'r symbol yn y 18fed ganrif eu bod nhw'n ddosbarth canol sef cas cloc hir eu hunain."

Yn yr amgueddfa hefyd mae cloc gafodd ei ddefnyddio mewn ffatri yn Rhosllannerchrugog rhwng 1891 a 1957. Roedd y cloc yn cael ei ddefnyddio gan weithwyr er mwyn cofnodi eu bod nhw wedi cyrraedd ac yn gadael y gwaith. Cafodd y ffatri ei dymchwel yn 1980 ond mi achubwyd y cloc.