Gemau ail gyfle Uwch Gynghrair Cymru

Mae Bangor a'r Rhyl wedi cyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle Uwch Gynghrair Beldroed Cymru.

Image caption Bydd cefnogwyr Bangor a'r Rhyl yn edyrch ymlaen at frwydr arall

Bydd y ddau dim o'r gogledd yn cwrdd dydd Sadwrn nesaf ar faes Nantporth Bangor i gystadlu am le yng Nghwpan Ewropa y tymor nesaf.

Bangor 1 Y Drenewydd 0

Chris Jones sgoriodd unig gôl y gem, diolch i waith caled chwaraewr y gêm Les Davies

Caerfyrddin 1 Y Rhyl 6

Crasfa annisgwyl i 10 dyn Caerfyrddin yn erbyn Y Rhyl

Dwy gôl yr un i Dave Forbes a Stephen Lewis

Paul McManus a Mark Cadwallader oedd sgorwyr y ddwy arall.