Dau berson wedi marw ar yr A40 ger Hwlffordd

Heddlu
Image caption Mae'r A40 o Hwlffordd i San Cler bellach ar gau ym mhob cyfeiriad

Mae dau berson wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A40 y tu allan i Hwlffordd b'nawn Sadwrn.

Roedd dau gerbyd wedi gwrthdaro tua 3.50 b'nawn Sadwrn ar y ffordd tuag at San Cler.

Bu farw gyrrwr a theithiwr un cerbyd yn y fan a'r lle, ac fe gludwyd gyrrwr a theithiwr y car arall i'r ysbyty, un mewn cyflwr difrifol.

Mae'r A40 o Hwlffordd i San Cler bellach ar gau ym mhob cyfeiriad ac mae arwyddion i gyfeirio gyrrwyr at ffyrdd eraill.

Mae'n debygol o fod ar gau tan o leiaf ganol nos nos Sul.

Mae'r Heddlu yn galw am dystion i'r gwrthdrawiad i ffonio 101.