Caerdydd 1 - 2 Chelsea

Caerdydd - Chelsea Image copyright Getty Images
Image caption Caerdydd 1 - 2 Chelsea

Mae tîm pêl-droed Caerdydd allan o'r Uwch Gynghrair wedi colli gartref yn erbyn Chelsea.

Fe lwyddodd yr Adar Gleision fynd ar y blaen o fewn y chwarter awr cyntaf, diolch i Craig Bellamy, ac fe lwyddodd y tîm cartref i gadw'r sgôr felly tan yr egwyl.

Ond fe ddaeth Chelsea i daro'n ôl yn yr ail hanner gyda dwy gôl o fewn munudau i'w gilydd.

Fe ddaeth gôl gyntaf Chelsea gan Andre Schurrle wedi 72 munud gyda chic i ganol uchel y rhwyd.

Torres sgoriodd ail gôl Chelsea, ei unfed gôl ar ddeg o'r tymor, gyda chic o chwe llath i ffwrdd.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd ar waelod y tabl ac yn disgyn o'r Uwch Gynghrair.

Mae cefnogwyr Caerdydd wedi bod yn protestio'n ddiweddar yn erbyn perchennog dadleuol y clwb.

Fe ddywedodd Vincent Tan, wedi dweud am y tro cyntaf ei fod yn fodlon ailystyried newid lliwiau'r clwb, unwaith y byddan nhw'n dychwelyd i'r Uwch Gynghrair.

Straeon perthnasol